Acne

afiechyd ar y chwarren sebwm

Mae Acne, a elwir hefyd yn acne vulgaris neu plorynnod, yn glefyd croen tymor hir sydd i'w weld pan fydd ffoliglau blew wedi eu llyffetheirio gyda chelloedd croen marw ac olew o'r croen.[1] Mae wedi'i nodweddu gan penddìynnod neu milia, plorod, croen seimllyd, a chreithio posibl.[2][3] Mae'n effeithio yn bennaf ar ardaloedd o'r croen gyda nifer uchel o chwarennau olew, yn cynnwys yr wyneb, rhan uchaf y frest, a'r cefn.[4] Gall yr ymddangosiad o ganlyniad arwain at ordyndra, gostyngiad mewn hunan-barch ac, mewn achosion eithafol, iselder neu feddwl am hunanladdiad.[5][6]

Acne
Enghraifft o'r canlynolcyflwr ffisiolegol, problem iechyd, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathafiechyd ar y chwarren sebwm, clefyd Edit this on Wikidata
SymptomauPimple edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Tybir mai geneteg yw prif achos acne mewn 80% o achosion.[7] Nid yw'n eglur beth yw rhan y deiet ac ysmygu, ac nid yw'n ymddangos bod glendid neu olau haul ran ychwaith.[8][9] Yn ystod y glasoed, yn y ddau ryw, mae acne yn cael ei achosi gan gynnydd mewn hormonau megis testosteron. Ffactor a welir yn aml yw gor-dyfiant y bacteriwm Propionibacterium acnes, sydd fel arfer yn bresennol ar y croen.[10]

Mae nifer o ddulliau o drin acne, yn cynnwys newidiadau mewn ffordd o fyw, meddyginiaethau, a chamau meddygol. Gall bwyta llai o garbohydradau syml fel siwgr helpu.[11] Yn aml defnyddir triniaethau sy'n cael eu rhoi yn uniongyrchol ar y croen, megis asid azelaig, benzoyl perocsod, ac asid alicylig. Mae gwrthfiotigau a retinoidau ar gael mewn  fformwleiddiadau sy'n cael ei rhoi ar y croen a'u cymryd trwy'r ceg i drin acne. Fodd bynnag, gall gwrthsafiad i wrthfiotigau ddatblygu o ganlyniad i therapi gwrthfiotig.[12] Mae nifer o wahanol fathau o dabledi atal genhedlu yn gallu helpu gydag acne mewn menywod. Cedwir tabledi isotretinoin fel arfer ar gyfer achosion o acne eithafol oherwydd y posibilrwydd o sgil-effeithiau.[13] Mae trin acne yn gynnar ac yn ymosodol yn cae ei annog gan rai yn y gymuned feddygol i leihau'r effaith tymor hir ar unigolion.

Yn 2015, amcangyfrifwyd bod acne yn effeithio ar 633 miliwn o bobl yn fyd-eang, gan ei wneud yn yr 8fed clefyd mwyaf cyffredin yn y byd.[14] Mae acne yn aml yn digwydd yn ystod llencyndod ac yn effeithio amcangyfrif o 80–90% o bobl ifanc yn eu harddegau yn y byd Gorllewinol.[15][16] Adroddir cyfraddau is mewn cymdeithasau gwledig.[17] Gall plant ac oedolion gale eu heffeithio cyn ac ar ôl y glasoed.[18] Er bod acne yn llai cyffredin ymhlith oedolion, mae'n parhau mewn tua hanner y bobl sy'n cael eu heffeithio hyd yr ugeiniau a thridegau ac mae grwp llai yn cael anawsterau hyd at eu pedwardegau.

Anifeiliaid eraill golygu

Gall acne fod ar gathod,[19] cwn,[20] a cheffylau hefyd.[21][22]

Cyfeiriadau golygu

  1. Aslam, I; Fleischer, A; Feldman, S (March 2015). "Emerging drugs for the treatment of acne". Expert Opinion on Emerging Drugs 20 (1): 91–101. doi:10.1517/14728214.2015.990373. PMID 25474485.(subscription required)Nodyn:Paywall
  2. Vary, JC, Jr. (November 2015). "Selected Disorders of Skin Appendages — Acne, Alopecia, Hyperhidrosis". The Medical Clinics of North America 99 (6): 1195–1211. doi:10.1016/j.mcna.2015.07.003. PMID 26476248.
  3. Tuchayi, SM; Makrantonaki, E; Ganceviciene, R; Dessinioti, C; Feldman, SR; Zouboulis, CC (September 2015). "Acne vulgaris". Nature Reviews Disease Primers: 15033. doi:10.1038/nrdp.2015.33.
  4. "Frequently Asked Questions: Acne" (PDF). U.S. Department of Health and Human Services, Office of Public Health and Science, Office on Women's Health. July 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 10 December 2016. Cyrchwyd 30 July 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. Barnes, LE; Levender, MM; Fleischer, AB, Jr.; Feldman, SR (April 2012). "Quality of life measures for acne patients". Dermatologic Clinics 30 (2): 293–300. doi:10.1016/j.det.2011.11.001. PMID 22284143.
  6. Goodman, G (July 2006). "Acne and acne scarring–the case for active and early intervention". Australian family physician 35 (7): 503–4. PMID 16820822. http://www.racgp.org.au/afp/200607/8194.
  7. Bhate, K; Williams, HC (March 2013). "Epidemiology of acne vulgaris". The British Journal of Dermatology 168 (3): 474–85. doi:10.1111/bjd.12149. PMID 23210645.
  8. Knutsen-Larson, S; Dawson, AL; Dunnick, CA; Dellavalle, RP (January 2012). "Acne vulgaris: pathogenesis, treatment, and needs assessment". Dermatologic Clinics 30 (1): 99–106. doi:10.1016/j.det.2011.09.001. PMID 22117871.
  9. Schnopp, C; Mempel, M (August 2011). "Acne vulgaris in children and adolescents". Minerva Pediatrica 63 (4): 293–304. PMID 21909065.
  10. James, WD (April 2005). "Acne". New England Journal of Medicine 352 (14): 1463–72. doi:10.1056/NEJMcp033487. PMID 15814882.
  11. Mahmood, SN; Bowe, WP (April 2014). "Diet and acne update: carbohydrates emerge as the main culprit". Journal of Drugs in Dermatology: JDD 13 (4): 428–35. PMID 24719062.
  12. Beylot, C; Auffret, N; Poli, F; Claudel, JP; Leccia, MT; Del Giudice, P; Dreno, B (March 2014). "Propionibacterium acnes: an update on its role in the pathogenesis of acne". Journal of the European Academy of Dermatology and Venereology: JEADV 28 (3): 271–8. doi:10.1111/jdv.12224. PMID 23905540.
  13. Titus, S; Hodge, J (October 2012). "Diagnosis and treatment of acne". American Family Physician 86 (8): 734–40. PMID 23062156. http://www.aafp.org/afp/2012/1015/p734.html.
  14. Hay, RJ; Johns, NE; Williams, HC; Bolliger, IW; Dellavalle, RP; Margolis, DJ; Marks, R; Naldi, L et al. (October 2013). "The Global Burden of Skin Disease in 2010: An Analysis of the Prevalence and Impact of Skin Conditions". The Journal of Investigative Dermatology 134 (6): 1527–34. doi:10.1038/jid.2013.446. PMID 24166134.
  15. Taylor, M; Gonzalez, M; Porter, R (May–June 2011). "Pathways to inflammation: acne pathophysiology". European Journal of Dermatology 21 (3): 323–33. doi:10.1684/ejd.2011.1357. PMID 21609898.
  16. Dawson, AL; Dellavalle, RP (May 2013). "Acne vulgaris". BMJ 346 (5): f2634. doi:10.1136/bmj.f2634. JSTOR 23494950. PMID 23657180.
  17. Spencer, EH; Ferdowsian, BND (April 2009). "Diet and acne: a review of the evidence". International Journal of Dermatology 48 (4): 339–47. doi:10.1111/j.1365-4632.2009.04002.x. PMID 19335417. https://archive.org/details/sim_international-journal-of-dermatology_2009-04_48_4/page/339.
  18. Admani, S; Barrio, VR (November 2013). "Evaluation and treatment of acne from infancy to preadolescence". Dermatologic Therapy 26 (6): 462–6. doi:10.1111/dth.12108. PMID 24552409.
  19. White, Stephen D.; Bordeau, Patrick B.; Blumstein, Philippe; Ibisch, Catherine; GuaguÈre, Eric; Denerolle, Philippe; Carlotti, Didier N.; Scott, Katherine V. (1997-09-01). "Feline acne and results of treatment with mupirocin in an open clinical trial: 25 cases (1994–96)" (yn en). Veterinary Dermatology 8 (3): 157–164. doi:10.1046/j.1365-3164.1997.d01-16.x. ISSN 1365-3164. http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1046/j.1365-3164.1997.d01-16.x/abstract.
  20. Veterinary Medicine (yn Saesneg). 1914.
  21. Radostits, Otto M.; Gay, Clive C.; Hinchcliff, Kenneth W.; Constable, Peter D. (2006-12-28). Veterinary Medicine: A textbook of the diseases of cattle, horses, sheep, pigs and goats (yn Saesneg). Elsevier Health Sciences. ISBN 9780702039911.
  22. White, David Stuart (1917). A Text-book of the Principles and Practice of Veterinary Medicine (yn Saesneg). Lea & Febiger.

Rhybudd Cyngor Meddygol golygu


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!