Ad-drefnu Llywodraeth Leol yng Nghymru, 2015
Yn Ebrill 2013 cyhoeddwyd fod Llywodraeth Cymru am gynnal Ad-drefnu Llywodraeth Leol yng Nghymru gyda'r bwriad o dorri'r nifer o siroedd o 22 i tua 12. Argymhelliad gan y Comisiwn Williams oedd y dylid cwtogi nifer cynghorau Cymru o 22 i 12, 11 neu 10 ac ymchwiliwyd i'r ad-drefnu gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews a gyhoeddodd ei Adroddiad ar 17 Mehefin 2015. Gofynnwyd i'r Awdurdodau lleol a fyddent yn dymuno uno gyda sir arall, ond dim ond chwe chyngor a fynegodd eu diddordeb mewn uno, ond dywedodd Andrews na fyddai'n ystyried eu ceisiadau gan nad oeddent yn ddigon cryf.[1]
Y rheswm dros yr ad-drefnu oedd er mwyn arbed arian, gyda llai oːgynghorwyr, aelodau cabined, arweinwyr ayb. Yn ôl Janet Finch-Saunders AC, llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr yng Nghymru, bod y broses o ad-drefnu “wedi bod yn shambls o’r dechrau i’r diwedd”.[2]
Comisiwn William
golyguYn Ebrill 2013, cyhoeddwyd lansio archwiliad i lywodraeth leol yng Nghymru drwy Gomisiwn; Cadeirydd y Comisiwn oedd Syr Paul Williams, gyda'r unig bwrpas o gynilo'r gwariant ar awdurdodau lleol.[3]
Ar 20 Ionawr cyhoeddodd Comisiwn Williams ei adroddiad a oedd yn argymell uno awdurdodau er mwyn lleihau'r niferoedd. Diystyrwyd newid yn y ffiniau. Argymhellwyd rhwng 10 a 12 awdurdod lleol newydd ac y byddai'r gost o'u huno'n cael ei ateb mewn arbedion dros ddwy flynedd.[4]
Dau opsiwn
golyguAr 17 Mehefin 2015 cynigiodd Leighton Andrews ddau opsiwnː naill ai 8 awdurdod lleol neu 9. Mae'r opsiwn cyntaf yn cynnwys tri yng Ngogledd Cymru, a'r ail yn cynnwys dau awdurdod. Yn yr opsiwn cyntaf, bydd Ynys Môn a Gwynedd; Conwy a Sir Ddinbych; a Sir y Fflint a Wrecsam yn uno i greu tri awdurdod. Mae'r ail opsiwn yn creu dau awdurdod, tipyn mwyː Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy; a Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
-
Opsiwn 1
-
Opsiwn 2
Mae’r opsiwn cyntaf yn dod ag Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot at ei gilydd, tra byddai’r ail hefyd yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Yn y ddau opiswn, bydd Caerdydd a Bro Morgannwg yn uno'n y de, ac unir hefyd Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Sir Fynwy a Chasnewydd. Mae Powys yn parhau fel ag y mae yn y ddau opsiwn.
Dywedodd Andrewsː “O ran y Gogledd, nid yw’n gwbl glir ai dau ynteu tri awdurdod lleol fyddai orau. Rydym yn teimlo felly bod lle i drafod ymhellach a byddem yn croesawu sylwadau.
“Hoffwn bwysleisio nad hwn yw’r penderfyniad terfynol – yn hytrach, dyma’r cam diweddaraf yn ein trafodaeth gyhoeddus.”
Yn ymateb i hyn dywedodd Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol: “Fel cam cyntaf, mae Dyfodol i’r Iaith yn gofyn am ymrwymiad y bydd unrhyw gyngor newydd yn y gogledd-orllewin yn gweithredu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg fel sy’n digwydd yng Ngwynedd ar hyn o bryd.”[5]
Yr Awdurdodau Lleol rhwng 1996 a 2015
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Daily Post dyddiedig 22 Rhagfyr 2014; adalwyd 16 Mehefin 2015
- ↑ www.golwg360; adalwyd 16 Mehefin 2015
- ↑ Local councils in Wales could be cut after review, BBC News, 19 Ebrill 2013.
- ↑ Williams Commission report calls for fewer councils, BBC News, 20 Ionawr 2014.
- ↑ www.walesonline.co.uk; adalwyd 17 Mehefin 2015