Leighton Andrews
Academydd a chyn-wleidydd o Gymru yw Leighton Andrews (ganwyd 11 Awst 1957). Fe'i etholwyd yn Aelod Cynulliad dros y Rhondda yn 2003 a chafodd ei ail-ethol yn 2007 a 2011. Collodd ei sedd i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn etholiad y Cynulliad, 2016 a penderfynodd beidio ceisio am enwebiad Llafur i'r sedd wedi hynny.[1]
Leighton Andrews | |
![]()
| |
Aelod Cynulliad dros Rhondda
| |
Cyfnod yn y swydd 1 Mai 2003 – 6 Ebrill 2016 | |
Rhagflaenydd | Geraint Davies |
---|---|
Olynydd | Leanne Wood |
Geni | ![]() | 11 Awst 1957
Plaid wleidyddol | Llafur Cymru |
Priod | Ann Beynon |
Alma mater | Prifysgol Bangor, Prifysgol Sussex |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd Leighton Andrews yng Nghaerdydd a chafodd ei fagu yn y Barri nes oedd yn 11 oed pan symudodd y teulu i Dorset. Mae ganddo radd mewn Saesneg a Hanes o Brifysgol Bangor ac MA mewn Hanes o Brifysgol Sussex.[2]
Gyrfa
golyguRoedd Andrews yn Weinidog Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cymru rhwng 2009 a 2013. Dilynodd Jane Hutt AC yn y swydd hon. Roedd ei weithgareddau yn cynnwys lansio y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg gyntaf erioed. Bu rhaid iddo ymddiswyddo yn Mehefin 2013 am iddo ar y teledu arddangos posteri a oedd yn erbyn ei bolisiau ef ei hunan.[3] Fe'i benodwyd yn Weinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus yn 2014.[4]
Bu'n Athro anrhydeddus ym Mhrifysgol Westminster rhwng 1997 a 2002 a hefyd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Roedd Leighton Andrews yn ffigwr dadleuol. Fe osododd, er enghraifft, y nod o sicrhau lle i Gymru yn yr 20 uchaf yn nhabl PISA erbyn 2015. Yn eu tro datganodd ei anfodlonrwydd ar ysgolion, awdurdodau lleol, prifysgolion, byrddau arholi a'i adran ef ei hun ym Mharc Cathays.[5]
Wedi colli ei sedd, aeth yn athro yn Ysgol Busnes Caerdydd, rhan o Brifysgol Caerdydd. Yn Chwefror 2025, dywedodd ei fod yn flin am fod ei swydd dan fygythiad, fel rhan o gynllun y Brifysgol i ddi-swyddo hyd at 400 o staff a thorri adrannau. Pan oedd yn weinidog addysg fe oruchwyliodd cyfnod o newid i brifysgolion pan rybuddiodd nhw i "addasu neu farw".[4]
Bywyd personol
golyguMae'n briod i Ann Beynon sy'n gyfarwyddwraig BT yng Nghymru; mae ganddyn nhw ddau o blant.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Leighton Andrews ddim am sefyll eto yn y Rhondda". BBC Cymru Fyw. 2016-05-20. Cyrchwyd 2025-02-04.
- ↑ "Leighton Andrews". senedd.cymru. Cyrchwyd 2025-02-04.
- ↑ "Education Minister Leighton Andrews resigns in schools row". BBC News (yn Saesneg). 2013-06-25. Cyrchwyd 2025-02-04.
- ↑ 4.0 4.1 "Prifysgol Caerdydd: Cyn-weinidog addysg yn wynebu colli ei swydd". BBC Cymru Fyw. 2025-02-04. Cyrchwyd 2025-02-04.
- ↑ Barn rhifyn 606/607 Gorffennaf/Awst 2013.