Ada Adini

actores

Roedd Ada Adini (1855 - Chwefror 1924) yn gantores opera soprano o'r Unol Daleithiau.[1]

Ada Adini
Ganwyd1855 Edit this on Wikidata
Boston Edit this on Wikidata
Bu farwChwefror 1924 Edit this on Wikidata
Dieppe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, canwr opera, athro cerdd, actor llwyfan Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata
PriodPaul Milliet Edit this on Wikidata

Ganwyd Adini yn Boston. Astudiodd canu ym Mharis o dan hyfforddiant Pauline Viardot a Giovanni Sbrigalia.

Fe wnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf mewn opera yn Varese ym 1876 yn chware rôl y teitl yn opera comique Giacomo Meyerbeer Dinorah. Bu ar daith gyda chwmni Mapleson yn Efrog Newydd ac wedi dychwelyd i Ewrop bu'n canu'n rheolaidd yn yr Opéra Paris o 1887. Un o'i chyfraniadau mwyaf nodedig i'r Opéra Paris oedd ym mherfformiad cyntaf o'r opera Ascanio gan Saint-Saëns ym 1890. Chwaraeodd rhan Donna Anna yn opera Motzart Don Giovanni yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden ym 1894 ac eto ym 1897. Bu'n llwyddiannus yn perfformio operâu Wagner gan ganu rhan Brünnhilde yn y première Eidalaidd o Die Walküre yn La Scala ym 1893

Ymysg y rhannau eraill bu Adini yn perfformio bu Anita yn La Navarraise, Brunehild yn Sigurd, Catherine d'Aragon yn Henry VIII, Charlotte yn Werther, Chimène yn Le Cid, Ardalyddes Almaviva yn Le nozze di Figaro, Desdemona yn Otello, Isolde yn Tristan und Isolde, Rachel yn La Juive, Sélika yn L'Africaine, Simonetta yn I Medici, Valentine yn Les Huguenots a Fenws yn Tannhäuser.[2]

Bu'n briod ddwywaith. Ei gŵr cyntaf oedd y tenor Antonio Aramburo a'i ail ŵr oedd Paul Milliet, awdur y libreto i opera Jules Massenet Hérodiade yn yr hon bu'n perfformio rhan Salomé ym Monte-Carlo ym 1903 gydag Emma Calvé yn rôl y teitl.

Bu farw yn Dieppe, Seine-Maritime ym 1924

Cyfeiriadau golygu

  1. The Great Book of Opera Singers, gol. Laura Macy (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2008), t.2
  2. Adini, Ada yn operissimo.com Archifwyd 2011-08-18 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 30 Hydref 2018

Dolenni allanol golygu