La Scala
Mae La Scala, yr enw byr Eidaleg ar gyfer Teatro alla Scala, yn Dŷ Opera ym Milan, yr Eidal. Cafodd y theatr ei agor ar gyfer perfformiadau ar 3 Awst 1778. Ei enw gwreiddiol oedd y Nuovo Regio Ducale Teatro alla Scala (Theatr Newydd Brenhinol a Dugaidd alla Scala). Y perfformiad cyntaf oedd perfformiad o opera Antonio Salieri Europa riconosciuta.[1]
Math | tŷ opera |
---|---|
Enwyd ar ôl | Santa Maria alla Scala |
Agoriad swyddogol | 3 Awst 1778 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Milan |
Gwlad | Yr Eidal |
Cyfesurynnau | 45.4675°N 9.1892°E, 45.467336°N 9.1888°E |
Rheolir gan | Fondazione Teatro alla Scala |
Arddull pensaernïol | Neoclassical architecture in Milan |
Perchnogaeth | Società dei palchettisti del Teatro alla Scala, Milan, Municipality of Milan |
Statws treftadaeth | ased diwylliannol yr Eidal |
Manylion | |
Mae'r rhan fwyaf o artistiaid operatig mwyaf yr Eidal a llawer o gantorion gorau o bob cwr o'r byd, wedi ymddangos yn La Scala. Mae'r theatr yn cael ei ystyried fel un o brif theatrau opera a bale yn y byd. Mae'n gartref i Gorws Theatr La Scala, Bale Theatr La Scala a Cherddorfa Theatr La Scala. Mae'r gan y theatr hefyd ysgol, Accademia Teatro alla Scala, (Academi Theatr La Scala). Mae'r ysgol yn cynnig hyfforddiant proffesiynol mewn cerddoriaeth, dawnsio, crefft llwyfan a rheoli llwyfan.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan y theatr adalwyd 1 Hydref 2018