Ada Lovelace
Mathemategydd ac awdur o Loegr oedd Augusta Ada King, Iarlles Lovelace (née Byron; 10 Rhagfyr 1815 – 27 Tachwedd 1852), a adwaenir yn bennaf am ei gwaith ar gyfrifiadur Charles Babbage: the Analytical Engine. Gwelir yn ei nodiadau yr hyn a gaiff ei ystyried i fod yr algorithm cyntaf i gael ei weithredu gan beiriant. Oherwydd hyn, ystyrir hi'r 'rhaglenydd' meddalwedd cyntaf.[1][2]
Ada Lovelace | |
---|---|
Ffugenw | A. A. L. |
Ganwyd | Augusta Ada Byron 10 Rhagfyr 1815 Llundain |
Bu farw | 27 Tachwedd 1852 o canser y groth Marylebone |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | mathemategydd, rhaglennwr, bardd, gwyddonydd cyfrifiadurol, dyfeisiwr, cyfieithydd, llenor, peiriannydd |
Cyflogwr | |
Prif ddylanwad | Charles Babbage |
Tad | George Gordon Byron |
Mam | Anne Isabella Byron |
Priod | William King-Noel |
Plant | Anne Blunt, Ralph King-Milbanke, Byron King-Noel |
Unig ferch gyfreithiol y bardd George, Arglwydd Byron a'i wraig Anne Isabella (née Noel) oedd Ada ac fe'i ganwyd ar 10 Rhagfyr 1815.[3] Plant llwyn a pherth oedd gweddill plant Byron, a hynny gan ferched eraill, y tu allan i'r briodas.[4] Fis wedi ei geni, gwahanodd Byron ac Anne gan droi ei gefn ar Loegr bedwar mis yn ddiweddarach, heb ddod yn ôl. Yn naturiol, teimlai Anne yn chwerw tuag at ei chyn-ŵr Byron, a cheisiodd arwain ei merch Ada ar hyd llwybr gwahanol, amgenach i'w thad: mathemateg a rhesymeg. Ond teimlai Ada'n agos ato drwy gydol ei hoes a chafodd ei chladdu wrth ei ochr wedi iddi farw.
Ei gwaith
golyguCyfarfu Ada a Babbage ym Mehefin 1833, drwy drefniant ffrind i'r ddau, sef Mary Somerville. Ymhen ychydig wythnosau gwahoddodd Babbage Ada i weld prototeip o'r peiriant a elwir yn Difference Engine.[5] Rhyfeddodd at y peiriant a cheisiodd dreulio cymaint o amser a phosib gyda Babbage. Gwnaeth hithau gryn argraff arno yntau, a nododd yn arbennig ei deallusrwydd a'i meddwl dadansoddol. Galwodd hi'n The Enchantress of Numbers ac yn 1843 sgwennodd:
Forget this world and all its troubles and if possible its multitudinous Charlatans—every thing in short but the Enchantress of Numbers.[6]
Cysylltiadau Cymreig
golyguBu'n gohebu gyda John Thomas (Pencerdd Gwalia) rhwng 1842-1910, yn bennaf am gerddoriaeth a'i gyngherddau Ewropeaidd a'i gyfansoddiadau. Cedwir y llythyrau hyn yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ceir hefyd lythyr gan Lovelace at 'Mrs Tynte', yn gofyn iddi hyrwyddo addysg y cyfansoddwr John Thomas.[7][8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Fuegi & Francis 2003, tt. 16–26.
- ↑ Phillips, Ana Lena (Tach-Rhag 2011). "Crowdsourcing gender equity: Ada Lovelace Day, and its companion website, aims to raise the profile of women in science and technology". American Scientist 99 (6): 463.
- ↑ Ada Lovelace Biography, biography.com
- ↑ Toole, Betty Alexandra (1987), "Poetical Science", The Byron Journal 15: 55–65, doi:10.3828/bj.1987.6.
- ↑ Toole 1998, tt. 36–38.
- ↑ Toole 1998, t. xi.
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 30 Tachwedd 2024.
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 30 Tachwedd 2024.