Mathemategydd a arloesodd yn yr hyn a adnabyddir heddiw fel cyfrifiadureg oedd Charles Babbage, FRS (26 Rhagfyr 1791 –18 Hydref 1871).[1] Roedd ganddo wybodaeth eang iawn o sawl pwnc, gan gynnwys athroniaeth, dyfeisio a pheirianneg. Mae'n fwyaf adnabyddus am ddyfeisio codio cyfrifiadurol.

Charles Babbage
Charles Babbage in 1860
Ganwyd (1791-12-26)26 Rhagfyr 1791
Llundain, Lloegr
Bu farw 18 Hydref 1871(1871-10-18) (79 oed)
Marylebone, Llundain, Lloegr
Cenedligrwydd Sais
Meysydd Mathemateg, peirianeg, economeg gwleidyddol, cyfrifiadureg
Sefydliadau Coleg y Drindod, Caergrawnt
Alma mater Peterhouse, Caergrawnt
Enwog am Mathemateg, cyfrifiadured
Dylanwadau Robert Woodhouse, Gaspard Monge, John Herschel
Dylanwadau Karl Marx, John Stuart Mill, Ada Lovelace
Llofnod

Ystyrir ef gan rai fel un o'r rhai cyntaf i ragweld gallu'r cyfrifiadur ac yn "Dad y Cyfrifiadur",[2] Cynlluniodd y cyfrifiadur mecanyddol cyntaf, mae'n debyg, a arweiniodd ef i greu cynlluniau mwy cynhleth.[1] Mae rhai o'i greadigaethau i'w canfod yn Amgueddfa Gwyddoniaeth Llundain. Crewyd "peiriant gwahaniaethu" (difference engine) drwy ddefnyddio'r cynlluniau a wnaeth dros ganrif yn ôl; gweithiodd y peiriant yn union fel y breuddwydiai Babbage. Mae John Tucker yn y gyfrol Robert Recorde (gol.: Gareth Roberts a Lenny Smith) fodd bynnag, yn dadlau mai'r mathemategydd Cymreig Robert Recorde a osododd rai o'r sylfeini sydd wrth wraidd cysyniadau Babbage.[3]

PlentyndodGolygu

Ceir anghytundeb ynglŷn ag union fan geni Babbage, ond yn ôl yr Oxford Dictionary of National Biography mae'n debygol iddo gael ei eni yn 44 Crosby Row, Walworth Road, Llundain.[4] Ceir plac glas ar y mur yn nodi hynny. Roedd yn un o bedwar o blant a anwyd i Benjamin Babbage a Betsy Plumleigh Teape. Gweithio fel partner mewn banc oedd ei dad i gwmni a sefydlodd gyda William Praed, sef: Praed's & Co. yn Stryd y Fflyd, Llundain, yn 1801.[5] Yn 1808, symudodd teulu'r Babbage i dref yn Ne Dyfnaint, Teignmouth. Yn wyth oed fe'i danfonwyd i ysgol yn Alphington, yng nghanol y wlad, ger Exeter. Am gyfnod byr bu'n ddisgybl yn Ysgol King Edward VI, Totnes, ond nid oedd ei iechyd yn arbennig o dda a chafodd diwtoriaid personol i'w addysgu.[6] Yna bu yn Academi Holmwood, Middlesex, ac yn llyfrgell yr ysgol honno y disgynodd mewn cariad gyda mathemateg. Pan oedd oddeutu 16 oed dychwelodd yn ôl i Totnes.[7]

ColegGolygu

Yn Hydref 1810 cyrhaeddodd Goleg y Drindod, Caergrawnt.[8] Roedd wedi datblygu cymaint yn ei fathemateg, ceir gohebiaeth ganddo sy'n nodi ei fod yn siomedig yn safon y gwaith yno.[4] Yn 1812 trosglwyddodd i Peterhouse, Caergrawnt lle daeth i'r brig a derbyniodd radd yn 1814 heb orfod sefyll unrhyw arholiad.[8]

Cyfnod heb waithGolygu

Bu'n darlithio yn y Royal Institution mewn seryddiaeth yn 1815, ac fe'i etholwyd yn gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1816.[9] Ond siomedig oedd y blynyddoedd a ddilynodd hynny, a methodd a chael swydd fel athro yn 1816.[10] Yn 1819, ymwelodd Babbage a Herschel â Pharis a chymdeithas Society of Arcueil, gan gyfarfod mathemategwyr a ffisegwyr blaenllaw'r dydd.[11] Y flwyddyn honno, ymgeisiodd am swydd fel athro Prifysgol Caeredin ond heb lwyddiant.[12][13]

Ceisiodd sefydlu cwmni yswiriant, ond heb lwyddiant eto; yn ystod y cyfnod hwn, dibynai'n gyfangwbwl ar daliadau cyson gan ei dad. Gwnaeth ei nyth yn Marylebone, Llundain, a llenwodd hwnnw gyda phlant.[14] Ond yn 1827, bu farw ei dad ac etifeddodd Babbage ystâd enfawr gwerth £100,000, (sy'n gyfwerth a £7.73 miliwn heddiw), gan ei wneud yn ddyn ariannog iawn.[4]

Wedi marwolaeth ei wraig, yn yr un flwyddyn (1827) bu farw'i wraig a chymerodd y goes, gan deithio'r Eidal, tra chyflogai nyrsus i warchod ei blant a Herschel i ddatblygu ei syniadau ar y peiriant gwahaniaethu. yn Rhufain, yn Ebrill 1828 clywodd ei fod wedi'i benodi'n Athro ym Mhrifysgol Caergrawnt, ar ei bedwerydd ymgais![15]

Y Gymdeithas SeryddolGolygu

Sefydlodd ac arianodd y Gymdeithas Seryddol yn 1820 gyda'r bwriad o leihau cyfrifiadau mathemategol, gan eu gwneud yn fwy hylaw. Enillodd fedal y gymdeithas "for his invention of an engine for calculating mathematical and astronomical tables". Pwrpas creu peiriant gwahaniaethu, meddai Babbage, oedd ymgais i wella'r The Nautical Almanac.[16]

Gyda'i gyfaill Thomas Frederick Colby, ymchwiliodd i'r posibilrwydd o greu system bost drwy Brydain, a dyfeisiodd system a alwyd yn Uniform Fourpenny Post a Uniform Penny Post[17] yn 1839 a 1840.

 
Bedd Babbage ym Mynwent Kensal Green, Llundain; 2014

Ada LovelaceGolygu

Bu Ada Lovelace yn gohebu gyda Babbage am beth amser, tra chynlluniodd y peiriant gwahaniaethu. Gwelir yn ei nodiadau hi yr hyn a gaiff ei ystyried i fod yr algorithm cyntaf i gael ei weithredu gan beiriant. Oherwydd hyn, ystyrir hi'r 'rhaglenydd' meddalwedd cyntaf.[18][19]

DisgynyddionGolygu

Cafodd Charles a Georgiana Babbage wyth o blant,[20] ond 4 yn unig a fu fyw'n oedolion – Benjamin Herschel Babbage, Georgiana Whitmore, Dugald Bromhead Babbage a Henry Prevost.

  • Benjamin Herschel Babbage (1815-1878)
  • Charles Whitmore Babbage (1817-1827)
  • Georgiana Whitmore Babbage (1818-??)
  • Edward Stewart Babbage (1819-1821)
  • Francis Moore Babbage (1821-??)
  • Dugald Bromhead (Bromheald?) Babbage (1823-1901)
  • (Maj-Gen) Henry Prevost Babbage (1824–1918)
  • Alexander Forbes Babbage (1827–1827)

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 Terence Whalen (1999). Edgar Allan Poe and the masses: the political economy of literature in antebellum America. Princeton University Press. t. 254. ISBN 978-0-691-00199-9. Cyrchwyd 18 Ebrill 2013.
  2. Halacy, Daniel Stephen (1970). Charles Babbage, Father of the Computer. Crowell-Collier Press. ISBN 0-02-741370-5.
  3. Robert Recorde; gol: Gareth Roberts a Fenny Smith; EAN: 9780708326824; Cyhoeddwyd: 15 Hyd 2013; gweler pennod 9.
  4. 4.0 4.1 4.2 (Saesneg) Swade, Doron. "Babbage, Charles". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/962.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  5. Members Constituencies Parliaments Surveys. "''Praed, William (1747–1833), of Tyringham, Bucks. and Trevethoe, nr. St. Ives, Cornw.''". Historyofparliamentonline.org. Cyrchwyd 2014-06-07.
  6. Moseley 1964, t. 39
  7. Bruce Collier; James MacLachlan (28 Medi 2000). Charles Babbage: And the Engines of Perfection. Oxford University Press. t. 11. ISBN 978-0-19-514287-7. Cyrchwyd 18 Ebrill 2013.
  8. 8.0 8.1 "Babbage, Charles (BBG810C)". Cronfa Ddata Alumni Caergrawnt. Prifysgol Caergrawnt.
  9. James Essinger (2007). Jacquard's Web. Oxford University Press. t. 59 a 98. ISBN 978-0-19-280578-2.
  10. Raymond Flood; Adrian Rice; Robin Wilson (29 Medi 2011). Mathematics in Victorian Britain. Oxford University Press. t. 145. ISBN 978-0-19-960139-4. Cyrchwyd 25 Ebrill 2013.
  11. George Green: Mathematician and Physicist, 1793–1841: The Background to His Life and Work. SIAM. 2001. t. 255 note 19. ISBN 978-0-89871-463-0. Cyrchwyd 8 Mai 2013.
  12. Roger Hahn (2005). Pierre Simon Laplace: 1749 – 1827; a Determined Scientist. Harvard University Press. tt. 295 note 34. ISBN 978-0-674-01892-1. Cyrchwyd 8 Mai 2013.
  13. (Saesneg) Panteki, Maria. "Wallace, William". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/28545.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  14. James. Remarkable Engineers. Cambridge University Press. t. 45. ISBN 978-1-139-48625-5. Cyrchwyd 26 Ebrill 2013.
  15. Kevin C. Knox (6 November 2003). From Newton to Hawking: A History of Cambridge University's Lucasian Professors of Mathematics. Cambridge University Press. tt. 242 and 258–72. ISBN 978-0-521-66310-6. Cyrchwyd 26 Ebrill 2013.
  16. M. Norton Wise (17 March 1997). The values of precision. Princeton University Press. t. 320. ISBN 978-0-691-01601-6. Cyrchwyd 25 Ebrill 2013.
  17. Anthony Hyman (1 Ionawr 1985). Charles Babbage: Pioneer Of The Computer. Princeton University Press. t. 115. ISBN 978-0-691-02377-9. Cyrchwyd 18 Ebrill 2013.
  18. Fuegi & Francis 2003, tt. 16–26.
  19. Phillips, Ana Lena (Tach-Rhag 2011). "Crowdsourcing gender equity: Ada Lovelace Day, and its companion website, aims to raise the profile of women in science and technology". American Scientist 99 (6): 463.
  20. Valerie Bavidge-Richardson. "Babbage Family Tree 2005". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Hydref 2007. Cyrchwyd 9 February 2013.
    Also see "Charles Babbage entry". ClanBarker. Cyrchwyd 9 February 2013.