Addysgydd (cylchgrawn)
cyfnodolyn
Roedd yr Addysgydd yn gylchgrawn misol Cymraeg a gyhoeddwyd gan J. Evans yng Nghaerfyrddin yn ystod 1823. Mae'n enghraifft gynnar o gylchgrawn i blant Cymraeg ac fe'i anelwyd at blant a phobl ifanc yr ysgol Sul yng Nghaerfyrddin.
Golygwyd y cylchgrawn gan y gweinidog a'r emynydd David Charles (1803-1880), ac mae'n cynnwys nifer o'i emynau. Roedd testun y cylchgrawn yn ymwneud yn bennaf ag addysg grefyddol. Credir mai hwn yw'r cyhoeddiad Cymraeg cyntaf i blant sydd yn gynnwys darluniau o ddigwyddiadau o'r Hen Destament a'r Testament Newydd.[1][2][3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Archer, Caroline (2015). Religion and the Book Trade. Cambridge Scholars Publishing. t. 185. ISBN 1443877247.
- ↑ "Addysgydd (Caerfyrddin)". Cylchgronau Cymru. 2017. Cyrchwyd 21/09/2017. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "CHARLES, DAVID, II (1803 - 1880)". Y Bywgraffiadur Cymreig. 1953. Cyrchwyd 21/09/2017. Check date values in:
|access-date=
(help)