Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth

adran o Brifysgol Aberystwyth

Adran ym Mhrifysgol Aberystwyth yw'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Hi yw'r adran brifysgol hynaf yn y byd i astudio cysylltiadau rhyngwladol.[1]

Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth
Enghraifft o'r canlynoladran academaidd Edit this on Wikidata
Rhan oPrifysgol Aberystwyth Edit this on Wikidata
Adeilad yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Sefydlwyd yr Adran a Chadair Woodrow Wilson mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym 1919 gyda chymorth rhodd o £20,000 gan David Davies, er cof am y myfyrwyr a laddwyd ac a glwyfwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.[2] Dilynodd prifysgolion eraill, megis Rhydychen ac Ysgol Economeg Llundain, trwy sefydlu cadeiriau eu hunain ym maes gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol. Credai Davies ac arloeswyr eraill y ddisgyblaeth bydd dysgu cysylltiadau rhyngwladol yn hyrwyddo heddwch a chefnogaeth dros gyfraith ryngwladol a Chyngrair y Cenhedloedd, a sefydlwyd hefyd ym 1919.[3] Yn ei Araith Agoriadol fel yr ail Athro Woodrow Wilson, nododd C. K. Webster yr oedd astudio cysylltiadau rhyngwladol yn ymateb i erchyllter y Rhyfel Byd Cyntaf ac bydd yn hanfodol wrth osgoi rhyfel arall o'r un fath yn y dyfodol.[4] Rhyngwladoldeb rhyddfrydol, rhyddfrydiaeth, a delfrydiaeth oedd uniongrededd cyntaf y ddisgyblaeth, gyda phwyslais ar harmoni diddordebau rhwng gwladwriaethau'r byd.

Ym mlynyddoedd diweddar, mae'r adran wedi bod yn bwysig wrth ddatblygu'r Ysgol Gymreig (a elwir weithiau yn Ysgol Aberystwyth) yn astudiaethau diogelwch, traddodiad beirniadol sy'n cysylltu diogelwch â damcaniaeth feirniadol.

Mae'r adran yn cyhoeddi'r cyfnodolion Contemporary Wales, Critical Studies on Terrorism, Intelligence and National Security, International Relations, Kantian Review, Medicine, Conflict and Survival, a'r Minerva Journal of Women and War, a hefyd y cyfnodolyn myfyrwyr hynaf yn y Deyrnas Unedig, Interstate.

Mae'r adran yn cynnal darlithoedd blynyddol er cof am E. H. Carr a David Davies, ac yn cynnal Seminar Ymchwil Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn wythnosol.

Graddau golygu

Mae'r adran yn cynnig 12 o raddau israddedig Anrhydedd Sengl, 8 ohonynt trwy gyfrwng y Saesneg a 4 ohonynt trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn Saesneg, Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Strategol, Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes Rhyngwladol, Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes Milwrol, Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Cudd-wybodaeth, Gwleidyddiaeth Ryngwladol a'r Trydydd Byd, Astudiaethau Gwleidyddol, ac Astudiaethau Ewropeaidd. Yn Gymraeg, Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Gwleidyddiaeth Cymru, Gwleidyddiaeth, a Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth Cymru. Gall myfyrwyr hefyd cyfuno Gwleidyddiaeth Ryngwladol â phynciau eraill fel gradd Anrhydedd Cyfun.

Mae'r adran yn cynnig 12 o raddau meistr, sef Gwleidyddiaeth Ewrop, Astudiaethau Cudd-wybodaeth, Astudiaethau Cudd-wybodaeth ac Astudiaethau Strategol, Astudiaethau Cudd-wybodaeth a Hanes Rhyngwladol, Hanes Rhyngwladol, Cysylltiadau Rhyngwladol, Gwleidyddiaeth Ôl-drefedigaethol, Astudiaethau Strategol, Astudiaethau Diogelwch, Terfysgaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, a Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru. Mae'r adran hefyd yn derbyn myfyrwyr doethuriaeth.

Staff enwog golygu

Bu nifer o aelodau staff yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ysgolheigion ac academyddion o fri, gan gynnwys:

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) McInness, Yr Athro Colin. Aber's Interpol. BBC. Adalwyd ar 26 Ionawr 2010.
  2.  Gweledigaeth Un Gŵr - a'r stori wedyn. Prifysgol Aberystwyth.
  3. Brown ac Ainley, tt. 21–2.
  4. Brown, tt. 58–9.

Ffynonellau golygu

  • Brown, Chris (2002). Sovereignty, Rights and Justice: International Political Theory Today. Polity Press.
  • Brown, Chris ac Ainley, Kirsten (2009). Understanding International Relations. Palgrave Macmillan.

Dolen allanol golygu