Aeddan ap Blegywryd

Brenin Gwynedd (? – 1018)

Roedd Aeddan ap Blegywryd (? – 1018) yn frenin Gwynedd.

Aeddan ap Blegywryd
GanwydTeyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
Bu farw1018 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
SwyddTeyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
RhagflaenyddCynan ap Hywel Edit this on Wikidata

Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am Aeddan, oherwydd mae'n gyfnod yn hanes Cymru na chafodd ei groniclo rhyw lawer. Nid oedd yn llinach Idwal Foel ac mae'n bosibl nad oedd o waed brenhinol. Enillodd orsedd Gwynedd yn 1005, a gellir tybio ei fod wedi gorchfyu'r brenin blaenorol, Cynan ap Hywel mewn brwydr. Teyrnasodd hyd 1018, pan laddwyd ef a'i bedwar mab mewn brwydr yn erbyn Llywelyn ap Seisyll, a gipiodd yr orsedd.

Rhagflaenydd:
Cynan ap Hywel
Brenin Gwynedd
10051018
Olynydd:
Llywelyn ap Seisyll

Gweler hefyd

golygu

Erthygl Aeddan mab Blegwryd yng Ngeiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I ar Wicidestun