Idwal Foel
brenin Gwynedd
Idwal Foel ab Anarawd (bu farw 942), Brenin Gwynedd o 916 hyd ei farwolaeth.
Idwal Foel | |
---|---|
Ganwyd | 885 ![]() Teyrnas Gwynedd ![]() |
Bu farw | 942 ![]() Teyrnas Gwynedd ![]() |
Dinasyddiaeth | Cymru ![]() |
Galwedigaeth | teyrn ![]() |
Tad | Anarawd ap Rhodri ![]() |
Mam | Nn ![]() |
Priod | Anhysbys ![]() |
Plant | Iago ab Idwal, Ieuaf ab Idwal, Rhodri ab Idwal Foel, Meurig ab Ithel ![]() |
Llinach | Llinach Aberffraw ![]() |
Bywgraffiad golygu
Etifeddodd Idwal orsedd Gwynedd ar farwolaeth ei dad, Anarawd ap Rhodri, yn 916. Bu'n rhaid iddo dalu teyrnged i Aethelstan Brenin Lloegr. Yn dilyn marwolaeth Athelstan, cododd Idwal a'i frawd Elisedd mewn gwrthryfel yn erbyn y Saeson, ond lladdwyd y ddau mewn brwydr yn 942.[1]
Gellid disgwyl y byddai teyrnas Gwynedd yn awr yn cael ei rhannu rhwng meibion Idwal, Iago ab Idwal ac Idwal, a elwir yn y croniclau yn Ieuaf ab Idwal. Fodd bynnag ymosododd Hywel Dda, Brenin Deheubarth ar Wynedd a gyrru meibion Idwal ar ffo. Ar ôl marw Hywel yn 950, llwyddodd meibion Idwal i gael y deyrnas yn ôl.[1]
Cyfeiriadau golygu
Idwal Foel Ganwyd: ? Bu farw: 942
| ||
Rhagflaenydd: Anarawd ap Rhodri |
Brenin Gwynedd 916–942 |
Olynydd: Hywel Dda |