Aelrhiw

sant o'r 6ed ganrif

Sant o'r 6g a gysylltir gyda phentref y Rhiw yn Llŷn yw Aelrhiw, ond mae'n fwy na phosib nad oedd person o'r enw yma'n bodoli, ac mai camsillafiad ydyw. Yn ôl Rice Rees, yn Bonedd y Saint (tt.306, 332) cysegrwyd Eglwys y Rhiw yn wreiddiol i'r 'Ddelw Fyw', ac mae'n bosib mai talfyriad llafar o'r enw yma yw enw'r sant. Mae dydd gŵyl y sant ar 9 Medi.[1]

Aelrhiw
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
Y Rhiw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl9 Medi Edit this on Wikidata

Mae hefyd yn bosib mai tarddiad y gair yw enw sant arall y sonir amdano yn y Bonedd, sef Aelryo (gweler §24(E) yn EWGT t.58) a drawsysgrifwyd o Maelrys ap Gwyddno. (A.W.Wade-Evans yn Arch.Camb. 86 (1931) t.165, PW 87).

Ffynnon Aelrhiw ym mhentref y Rhiw.

Gweler hefyd golygu


Cyfeiriadau golygu