Afan Argoed
parc gwledig
Mae Afan Argoed neu Parc Coedwig Afan (yr enw newydd[1]) yn barc fforest yng Nghwm Afan wedi ei adeiladu ar safle hen waith glo Yr Argoed oedd yn ei anterth ar ddechrau’r 20g. Yn y rhan yma o'r cwm mae’r bryniau yn serth a’r rhan fwyaf o'r tir wedi ei orchuddio gyda choed pinwydd gan y Comisiwn Coedwigaeth. Mae Afan Argoed yn cynnwys amgueddfa fach am hanes glofaol a naturiol y cwm, a hefyd yn cynnwys milltiroedd o lwybrau cerdded trwy'r goedwig. Mae seiclo - yn arbennig seiclo mynyddig - wedi datblygu yn fawr ers 2000.
Math | dyffryn, parc gwledig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6328°N 3.7328°W |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ NPTCBC (1999). Afan Argoed Country Park Archifwyd 2012-05-02 yn y Peiriant Wayback Neath Port Talbot County Borough Council. Adalwyd 4 Mai 2012
Dolen allanol
golygu- Gwefan Swyddogol Archifwyd 2006-10-05 yn y Peiriant Wayback