Afon Arth
Afon yn ne Ceredigion yw Afon Arth. Mae'n aberu ym Bae Ceredigion ym mhentref Aberarth, tua tair milltir i'r gogledd o Aberaeron. Mae'n codi yn y bryniau rhwng Penuwch a Bethania, i'r gorllewin o bentref Llangeitho. Ei hyd yw tua 7 milltir.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.249°N 4.225°W |
Aber | Bae Ceredigion |
Nid hon yw'r unig afon yng Nghymru sy'n ein hatgoffa o'r ffaith y bu eirth yng Nghymru yn y gorffennol: ceir Afon Eirth ym Mhowys, er enghraifft.