Llangeitho

pentref yng Ngheredigion

Pentref a chymuned yng nghanolbarth Ceredigion yw Llangeitho ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ym mhen uchaf Dyffryn Aeron ar lan ddwyreiniol Afon Aeron. Mae'r pentref ar groesfordd ar y B4342 7 milltir i'r gogledd o Lanbedr Pont Steffan.

Llangeitho
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth819, 742 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,829.07 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.22°N 4.02°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000380 Edit this on Wikidata
Cod OSSN679597 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Am ganrifoedd bu Llangeitho'n gadarnle i'r iaith Gymraeg, ond cafwyd mewnlifiad mawr yn y 1970au a arweiniodd at gwymp yn y canran o'r boblogaeth sy'n medru'r iaith o 83% yn 1971 i 55% yn 1981. Yn ôl cyfrifiad 2001 y ffigwr rwan yw 57%.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Hanes a hynafiaethau

golygu

Mae Llangeitho yn enwog yn hanes Cymru fel man geni y diwygiwr Methodistaidd Daniel Rowland, a aned yno yn 1713. Gwasanethodd fel curad yn Nantcwnlle a Llangeitho. Cododd gapel yn Llangeitho yn 1760 a ddaeth yn adnabyddus ledled Cymru fel canolfan Fethodistaidd. Tyrai bobl yn eu miloedd o bob rhan o'r wlad i wrando ar ei bregethau yn y capel hwnnw. Cafodd ei gladdu yn y pentref a cheir cofgolofn iddo yno. Cafwyd dau gapel arall i gymryd lle'r hen un, y cyntaf yn 1764 a'r ail yn 1814.[3]

 
Un o gymeriadau'r ardal yn ca 1885: Bet Fach pan oedd yn 92 oed.

Mae eglwys Llangeitho, sy'n sefyll ar ochr ogleddol y pentref, yn hynafol ond cafodd ei hatgyweirio'n sylweddol ar ddiwedd y 19g a difethwyd yr ysgrîn ddwbl ganoloesol hardd a'r hen risiau pren yn arwain i'r groglofft. Enwir yr eglwys a'r plwyf ar ôl Sant Ceitho. Ceir Ffynnon Geitho gerllaw; dywedir fod ei dŵr yn oer yn yr haf ond yn gynnes yn y gaeaf.[3]

Yng nghyffiniau'r pentref ceir plasdy'r Cwrt Mawr, lle casglodd yr hynafiaethydd J. H. Davies y casgliad gwerthfawr o lawysgrifau Cymraeg a adwaenir fel Llawysgrifau Cwrtmawr, sy'n rhan o gasgliad llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhodd gan J. H. Davies.[3]

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangeitho (pob oed) (819)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangeitho) (430)
  
54%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangeitho) (428)
  
52.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llangeitho) (152)
  
41.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. 3.0 3.1 3.2 T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Cyfres Crwydro Cymru, Llyfrau'r Dryw, 1952).
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]