Afon Avon (Bryste)
afon yn ne Lloegr
Afon yn ne-orllewin Lloegr yw Afon Avon (Saesneg: River Avon). Er mwyn gwahaniaethu rhyngddi a sawl afon arall o'r un enw yn Lloegr, fe'i gelwir hefyd y Lower Avon neu'r Bristol Avon. Mae'r gair avon ei hun yn gytras â'r gair Cymraeg 'afon'.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerloyw, Wiltshire, Gwlad yr Haf, Dinas Bryste |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5211°N 2.3525°W, 51.503036°N 2.7178°W |
Aber | Môr Hafren |
Llednentydd | Afon Malago, Afon Frome, Afon Chew, Brislington Brook, Afon Bybrook, Lam Brook, Afon Biss, Afon Boyd, Afon Marden, Afon Trym, Siston Brook, Tetbury Avon, Wellow Brook, New Cut |
Dalgylch | 2,308 cilometr sgwâr |
Hyd | 121 cilometr |
- Erthygl am yr afon yng ne-orllewin Lloegr yw hon. Gweler hefyd Afon Avon.
Tardda'r Afon Avon ger Chipping Sodbury yn Swydd Gaerloyw, gan ymrannu yn ddau cyn ymuno eto a llifo trwy Wiltshire. Yn ei chwrs olaf o Gaerfaddon hyd Afon Hafren yn Avonmouth ger Bryste mae cychod yn gallu eu defnyddio a gelwir y rhan yma yn Avon Navigation yn Saesneg.