Afon Hafren

afon yng Nghymru a Lloegr

Afon hiraf Prydain yw Afon Hafren (Saesneg River Severn), 354 km (219 milltir) o hyd. Mae'n tarddu yng nghanolbarth Cymru cyn llifo trwy orllewin Lloegr am ran o'i chwrs a llifo i Fôr Hafren rhwng Caerdydd a Weston-super-Mare.

Afon Hafren
SevernFromCastleCB.JPG
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.6853°N 2.5436°W, 52.4944°N 3.7375°W Edit this on Wikidata
AberMôr Hafren Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Efyrnwy, Afon Tern, Afon Stour, Afon Avon, Afon Avon, Afon Tefeidiad, Afon Leadon, Afon Gwy, Afon Little Avon, Afon Camlad, Afon Chelt, Afon Frome, Afon Lyd, Afon Perry, Afon Salwarpe, Afon Worfe, Afon Carno, Afon Clywedog, Afon Taf Edit this on Wikidata
Dalgylch11,420 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd354 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad106.62 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata

Mae Afon Hafren yn tarddu ar lethrau gogleddol Pumlumon ger Llanidloes, ar uchder o 610m. Nid yw tarddle Afon Gwy ymhell, ar lethrau deheuol Pumlumon. Mae'r afon yn llifo tua'r de-ddwyrain trwy Goedwig Hafren. Ychydig cyn cyrraedd Llanidloes mae Afon Dulas yn ymuno â hi ac yna yn nhref Llanidloes ei hun mae Afon Clywedog yn ymuno. O Lanidloes mae'r afon yn troi tua'r gogledd-ddwyrain heibio Llandinam a Chaersŵs, lle mae Afon Carno yn ymuno. Mae'n llifo trwy'r Drenewydd a heibio Castell Dolforwyn ac Aber-miwl ac yna trwy'r Trallwng. Am ychydig filltiroedd mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, yna mae'n croesi i Loegr, lle mae'n parhau tua'r dwyrain i lifo trwy Amwythig. Mae wedyn yn llifo heibio Ironbridge a Bridgnorth, Stourport-on-Severn ac yna Caerwrangon, lle mae Afon Tefeidiad yn ymuno â hi ychydig i'r de o'r ddinas, a Tewkesbury. Mae'n llifo tua'r de heibio Caerloyw cyn cyrraedd yr aber ym Môr Hafren, lle mae'n gwahanu Cymru a Lloegr.

Mae sawl pont nodedig, yn enwedig pontydd haearn Llandinam ac Iron Bridge, Pont Hafren ac Ail Groesfan Hafren, a thwnnel rheilffordd yn croesi'r afon.

Geirdarddiad a MytholegGolygu

Credir fod yr enw Severn yn deillio o’r Frythoneg sabrinā, o bosib o ffurf hynafol samarosina, a olygir tir braenar yr haf. Mae cofnod o’r enw yn ei ffurf Ladinaidd Sabrina yn deillio o'r 2il ganrif.

Cofnodir y ffurf Gymraeg o'r enw Hafren, yn gyntaf, yn y Historia Regum Britanniae yn y 12g. Gwnaeth masque Comus Milton o 1634, Sabrina yn nymff a oedd wedi boddi yn yr afon. Yn yr Amwythig, heddiw mae cerflun o Sabrina yng Ngerddi Dingle yn y Chwarel, yn ogystal â cherflun metel ohoni a godwyd yn 2013.

Mae duwdod gwahanol yn gysylltiedig ag Aber yr Hafren, sef Nodens, wedi’i gynrychioli yn eistedd ar forfarch, yn marchogaeth ar frig eger yr Hafren.

OrielGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.