Afon Blavezh
Afon yn Llydaw yw afon Blavezh (Ffrangeg: Blavet). Mae'r afon, sy'n 148.9 km o hyd, yn tarddu ger mynyddoedd Haute-Cornouaille a Trégor yn département Aodoù-an-Arvor, ac yn llifo tua'r de i département Mor-Bihan. O Gwareg hyd Pondi, mae'n ffurfio rhan o Gamlas Noaoned - Brest. O Pondi ymlaen i'r aber, gall llongau ei defnyddio.
Math | afon, gold river |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 48.4486°N 3.2442°W, 47.7381°N 3.3419°W |
Tarddiad | Boulvriag |
Aber | Cefnfor yr Iwerydd |
Llednentydd | Ével, Daoulas, Sarre, Afon Skorf, Q3463054, Sullon |
Dalgylch | 1,951 cilometr sgwâr |
Hyd | 148.9 cilometr |
Arllwysiad | 26.7 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Llifa'r afon heibio trefi Saint-Nicolas-du-Pélem, Gwareg, Pondi, Henbont ac An Oriant.