Tref a Chymuned yn Llydaw yw Pondi (Ffrangeg: Pontivy, Gallo: Pondivi). Saif yn département Mor-Bihan, lle mae dau prif gamlas canolbarth Llydaw yn cyfarfod, Camlas Blavet a Camlas Nantes a Brest.

Pondi
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth14,774 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Napoleonville, Wesseling, Tavistock, Ouélessébougou Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Llydaw Llydaw
Arwynebedd24.85 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr60 metr, 48 metr, 192 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaNoal-Pondi, Sant-Turiav, Ar Sorn, Malgeneg, Klegereg, Neulieg Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.0686°N 2.9628°W Edit this on Wikidata
Cod post56300 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Pondi Edit this on Wikidata
Map

Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg. Mae Pondi yn un o drefi Bro-Wened, un o naw fro hanesyddol Llydaw.

Sefydlwyd y dref gan y mynach Llydewig Ivy yn y 7g, a chafodd yr enw Pond Ivy (pond yw "pont" yn Llydaweg). Adeiladwyd castell yma gan Jean II de Rohan rhwng 1479 a 1485, ar safle castell blaenorol. Newidiwyd yr enw i Napoléonville am gyfnod yn ystod teyrnasiad Napoleon.

Yr Iaith Lydewig

golygu

Derbyniodd cyngor y dref y siarter iaith Lydewig Ya d’ar brezhoneg yn 2004, ac yn 2007 roedd 11.8% o'r disgyblion ysgol gynradd yn derbyn addysg ddwyieithog. Mae pencadlys Radio Bro-Gwened yma.

Poblogaeth

golygu

 

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: