Afon ym Mhowys sy'n llifo i mewn i Afon Hafren yw afon Carno.

Afon Carno
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.5588°N 3.5312°W Edit this on Wikidata
AberAfon Hafren Edit this on Wikidata
Map

Ceir tarddle'r afon ar y llethrau i'r gogledd-orllewin o bentref Carno. Gerllaw'r pentref, mae afon Cledan yn ymuno â hi, cyn llifo tua'r de-ddwyrain trwy bentrefi Clatter a Pontdolgoch, fymryn i'r gorllewin o'r briffordd A470. Mae'n ymuno ag Afon Hafren gerllaw Caersŵs.