Afon Cibi
afon fechan yn Sir Fynwy
Afon fechan yn Sir Fynwy yw Afon Cibi. Mae'n tarddu ar lethrau deheuol Pen-y-fâl ac yn llifo i'r de am tua 3 milltir (5 km) i'w chydlifiad ag Afon Gafenni yn Dolydd y Castell yn y Fenni. Mae llawer o gwrs y nant drwy'r Fenni bellach o dan y ddaear mewn ceuffosydd er bod darnau i'w gweld mewn sianeli agored wrth ochr Parc Bailey ac i'r dwyrain o Stryd y Farchnad.
Afon Cibi mewn sianel yn y Fenni | |
Math | nant |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.822621°N 3.017124°W |
Cod OS | SO299142 |
Aber | Afon Gafenni |
Yn y 19g safodd melin ŷd, Melin y Capel (cyfeirnod OS SO 291155), wrth ochr yr afon i'r gogledd o'r Fenni.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Chapel Mill", Coflein; adalwyd 29 Rhagfyr 2024