Afon Gafenni
afon yn Sir Fynwy
Afon fer yn Sir Fynwy yw Afon Gavenni. Mae'n tarddu tua 1 milltir (1.6 km) i'r de-orllewin o bentref Llanfihangel Crucornau ac yn llifo i'r de am tua 4 milltir (6.4 km) i'w chydlifiad ag Afon Wysg tua phen dwyreiniol Dolydd y Castell yn y Fenni. Ychydig cyn iddi gwrdd ag Afon Wysg mae'r afon fechan Afon Cibi yn ymuno â hi.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8353°N 3.0033°W |
Aber | Afon Wysg |
Ar ei hyd mae'r afon yn gul ac yn llifo'n gyflym. Gellir gweld bronwennod y dŵr yn aml yn y dŵr.
Y melinau
golyguRoedd yr afon gynt yn cyflweni pŵer i sawl melin ŷd, a phob un ohonynt bellach wedi diflannu. Cofnodir o leiaf saith o'r rhain.
- Melin Triley yw'r uchaf, sydd wedi'i lleoli rhwng y rheilffordd i'r gorllewin a'r A465 i'r dwyrain (cyfeirnod OS SO310173).[1]
- Melin Brooklands yn Llandeilo Bertholau (cyfeirnod OS SO310165)[2]
- Melin Cwm ychydig i'r dwyrain o'r Maerdy lle mae Nant Mynachdy yn dod i mewn fel llednant ar y lan chwith (cyfeirnod OS SO309155).[3]
- Melin Fach ar Ross Road, ar gyrion gogledd-ddwyreiniol y Fenni (cyfeirnod OS SO306146)[4]
- Melin y Priordy, hefyd ar gyrion gogledd-ddwyreiniol y Fenni, yn union i'r de o Felin Fach (cyfeirnod OS SO303144)[5]
- Hen felin ŷd ar Mill Street, y Fenni (cyfeirnod OS SO300138)[6]
- Melin Philpotts oedd y felin olaf ar yr afon (cyfeirnod OS SO301137).[7]
Oriel
golygu-
Afon Gavenni ar gyrion gogledd-ddwyreiniol y Fenni
-
Afon Gavenni yn llifo drwy sianel yng nghanol y Fenni
-
Afon Gavenni yn ymuno ag Afon Wysg yn y dolydd i'r de o'r Fenni
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Trily Mill", Coflein; adalwyd 28 Rhagfyr 2024
- ↑ "Brooklands Mill", Coflein; adalwyd 28 Rhagfyr 2024
- ↑ "Cwm Mill, Maerdy", Coflein; adalwyd 28 Rhagfyr 2024
- ↑ "Corn Mill, Ross Road, Abergavenny", Coflein; adalwyd 28 Rhagfyr 2024
- ↑ "Priory Mill", Coflein; adalwyd 28 Rhagfyr 2024
- ↑ "Corn Mill, Mill Street, Abergavenny", Coflein; adalwyd 28 Rhagfyr 2024
- ↑ "Philpotts Mill, Abergavenny", Coflein; adalwyd 28 Rhagfyr 2024