Afon Clarach
afon yng Ngheredigion
Afon yng Ngheredigion yw Afon Clarach, hefyd Nant Clarach. Mae'n llifo i Fae Ceredigion ychydig i'r gogledd o Aberystwyth.
Afon Clarach o Fae Clarach | |
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.4356°N 4.0797°W |
Mae nifer o afonydd llai, yn cynnwys Afon Stewi a Nant Seilo, yn cyfarfod gerllaw Penrhyn-coch i ffurfio afon Clarach. Llifa tua'r gorllewin heibio Plas Gogerddan a Llangorwen, cyn llifo tros y traeth i Fae Clarach.
Arferai ffurfio'r ffîn rhwng cymydau Perfedd a Genau'r Glyn. Ar un adeg, roedd y gweithfeydd plwm yn achosi llygredd yn yr afon, ond mae ansawdd y dŵr wedi gwella yn y blynyddoedd diwethaf.