Agor y brif ddewislen

Cwmwd yng ngogledd eithaf teyrnas Ceredigion ar lan Bae Ceredigion oedd Genau'r Glyn yn yr Oesoedd Canol a defnyddir yr enw heddiw am y gymuned. Mae'r gymuned yn cynnwys: Llandre, Dôl-y-bont a Rhydypennau.[1] Gyda chymydau Perfedd a Chreuddyn roedd yn rhan o gantref Penweddig.

Genau'r Glyn
Math Cwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Penweddig Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Yn ffinio gyda Cyfeiliog, Perfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.453889°N 4.019722°W Edit this on Wikidata

Ei ffin naturiol yn y gogledd oedd aber Afon Dyfi, lle wynebai Ystumanner, cwmwd deheuol cantref Meirionnydd dros y dŵr. Yn y dwyrain ffiniai â chantref Cyfeiliog ym Mhowys ac â chwmwd Perfedd yn y de dros Afon Clarach. Dyma gwmwd mwyaf gogleddol cantref Penweddig.

Mae gan Genau'r Glyn nifer o hynafiaethau ac mae'n ardal gyfoethog ei llên gwerin. Ceir cysylltiadau â Hanes Taliesin a goffheir yn enwau lleol fel pentref Tre Taliesin a chromlech Bedd Taliesin. Yma hefyd y lleolir chwedl Cantre'r Gwaelod. Mae Cors Fochno, ar lan Afon Dyfi, yn cael ei chrybwyll yn aml yn y brudiau fel safle brwydr dynghedfennol rhwng y Cymry a'u cynghreiriad Celtaidd a'r Saeson. Cysylltir y sant Cynfelin â'r cwmwd hefyd. Gerllaw, saif Castell Gwallter a adeiladwyd gan Walter de Bec yn ystod arhosiad byr y Normaniaid yng Ngheredigion.[1]

Roedd y bardd Deio ab Ieuan Du (fl. tua 1450 - 1480) yn frodor o blwyf Llangynfelyn, a chafodd ei gladdu yno. Trigai mam Edward Llwyd, sef Bridget Pryse, yng Nglanffraid (Glanffred) am gyfnod.

Mae'r enw Genau'r Glyn yn dal i gael ei ddefnyddio heddiw i gyfeirio at yr ardal hanesyddol hon. Cedwir yr enw o hyd yn enw pentref Llanfihangel Genau'r Glyn.

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; Cyhoeddwyd 2007; tud. 371