Perfedd (cwmwd)

cwmwd canoloesol yng ngogledd Teyrnas Ceredigion

Cwmwd canoloesol yng ngogledd Teyrnas Ceredigion oedd Cwmwd Perfedd. Roedd yn gorwedd yng nghantref Penweddig.

Perfedd (cwmwd)
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPenweddig Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaGenau'r Glyn Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.414°N 4.081°W Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y cwmwd yw hon. Gweler hefyd Perfedd.

Ffiniai'r cwmwd â chymydau Genau'r Glyn i'r gogledd, gydag afon Clarach yn dynodi'r ffin, a'r Creuddyn i'r de, gan ffurfio canol (perfedd) cantref Penweddig. I'r dwyrain ffiniai â chantrefi Cyfeiliog ac Arwystli yn Nheyrnas Powys gyda bryniau Elenydd yn dynodi'r ffin. Wynebai ar Fae Ceredigion i'r gorllewin.

Prif ganolfan y cwmwd oedd Aberystwyth, a dyfodd yn ymyl hen ganolfan eglwysig Llanbadarn Fawr. Roedd yn cynnwys yn ogystal bryngaer hynafol Pen Dinas, ar yr arfordir ger Aberystwyth.

Gweler hefyd golygu