Afon Cywyn
Afon yn Sir Gaerfyrddin yw Afon Cywyn. Ei hyd yw tua 16 milltir.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7926°N 4.4531°W |
Aber | Afon Taf |
Mae'n tarddu yng ngorllewin canolbarth y sir yn y bryniau tua hanner ffordd rhwng Castell Newydd Emlyn a Sanclêr. Ei phrif lednant yw Nant Cynnen, sy'n llifo i mewn iddi ger Abernant. Ar ôl llifo ar gwrs deheuol mae hi'n troi i'r de-orllewin ac yn llifo heibio i Fancyfelin i aberu yn Afon Tâf ger Llandeilo Abercywyn.
Tarddiad yr enw
golyguY sillafiad gwreiddiol yn y 12ed ganrif oedd: "Couin". Mae'r gair yn golygu "pla", ac mae'n bosibl mai'r afon oedd ffin ymlediad y pla ganrifoedd yn ôl.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dictionary of Place-names of Wales; Gwasg Gomer, 2007; Tud 117.