Afon yn ne Bro Morgannwg, Cymru, yw Afon Ddawan (Saesneg: River Thaw). Nid yw'n afon fawr ond mae'n llifo trwy ardal hanesyddol sy'n adnabyddus heddiw fel bro mebyd y llenor amryddawn a ffugiwr hynafiaethau Iolo Morganwg.

Afon Ddawan
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.3828°N 3.3961°W Edit this on Wikidata
AberMôr Hafren Edit this on Wikidata
Map

Gorwedd tarddle'r afon yn y bryniau isel rhwng Eglwys Fair y Mynydd a Llanhari. Llifa ar gwrs deheuol trwy'r Fro, heibio neu drwy Llansanwyr, Pen-llin, Y Bont Faen, Llanfleiddan, Llandochau, Trefflemin (y pentref lle magwyd Iolo Morganwg), a Sain Tathan, i gyrraedd Môr Hafren yn Aberddawan. Ei hyd yw tua 10 milltir.