Trefflemin

pentref a chymuned ym Mro Morgannwg

Pentref bychan yng nghanol Bro Morgannwg, de Cymru, yw Trefflemin (Saesneg: Flemingston).

Trefflemin
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4249°N 3.4181°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Gorwedd y pentref ar lan orllewinol Afon Ddawan tua 4 milltir i'r de-ddwyrain o dref Y Bont-faen.

Mae Trefflemin yn adnabyddus yn hanes llenyddiaeth Gymraeg fel cartref yr hynafiaethydd amryddawn, bardd a ffugiwr llenyddol Iolo Morganwg (1747-1826). Ganed Iolo ym mhentref Pennon, plwyf Llancarfan, ond symudodd ei rieni i fyw mewn bwthyn yn Nhrefflemin yn fuan ar ôl ei eni. Mae gan y pentref a'r wlad o'i gwmpas ran bwysig yn y Forgannwg ramantaidd a greuwyd gan Iolo yn ei farddoniaeth a rhai o'i ffugiadau. Erbyn heddiw dim ond muriau'r bwthyn sy'n aros, yn rhan o fuarth fferm yng nghanol y pentref.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. G. J. Williams, Iolo Morgannwg (Caerdydd, 1956).