Llandochau

pentref a chymuned ym Mro Morgannwg

Pentref yng nghymuned Llan-fair, Bro Morgannwg, Cymru, yw Llandochau[1] (weithiau Llandochau Fawr, Saesneg: Llandough).[2] Saif yng nghanol y sir. Fe'i gelwir yn "Llandochau Fawr" weithiau i wahaniaethu rhyngddo a Llandochau arall yn y Fro, sef Llandochau Fach, ger Penarth. Tarddiad yr enw yw Sant Dochwy o'r 5ed a'r 6g; ym mynwent Eglwys Sant Dochdwy y saif Croes Geltaidd enwog ac unigryw Irbig o'r 10fed a'r 11g.[3]

Llandochau
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlan-fair Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4425°N 3.4472°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS995725 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJane Hutt (Llafur)
AS/auKanishka Narayan (Llafur)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Peidiwch â chymysgu y pentref hwn â Llandochau Fach, pentref a chymuned yn yr un sir.

Mae'r pentref yn gorwedd ar lan orllewinol Afon Ddawan, tua milltir a hanner i'r de o'r Bont-faen. Cysylltir â dinas Caerdydd gan y ffordd A4160.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Kanishka Narayan (Llafur).[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 22 Rhagfyr 2021
  3. www.parishofpenarthandllandough.co.uk; adalwyd 27 Mehefin 2015
  4. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-22.
  5. Gwefan Senedd y DU