Afon Fly
Afon ar ynys Gini Newydd yw afon Fly. Mae'r rhan fwyaf ohoni o fewn Papua Gini Newydd, heblaw am ran fechan lle mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng Papua Gini Newydd a thalaith Papua o Indonesia. Hi yw afon ail-hwyaf yr ynys ar ôl afon Sepik, tua 1,050 km o hyd.
Math | afon |
---|---|
Enwyd ar ôl | HMS Fly |
Daearyddiaeth | |
Sir | Western Province |
Gwlad | Papua Gini Newydd |
Cyfesurynnau | 5.3028°S 141.5192°E, 8.5°S 143.683°E |
Aber | Gwlff Papua |
Llednentydd | Afon Ok Tedi, Afon Strickland |
Dalgylch | 76,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 1,050 cilometr |
Arllwysiad | 6,000 metr ciwbic yr eiliad |
Mae'n tarddu ym Mynyddoedd Star, yn ucheldiroedd Papua Gini Newydd, ac yn llifo tua'r de-ddwyrain i gyrraedd Gwlff Papua, lle mae'n ffurfio delta.