Gwlff Papua
Gwlff ar arfordir deheuol ynys Gini Newydd yw Gwlff Papua. Mae'n rhan o'r Môr Cwrel, ac yn ymestyn am tua 400 km o Benrhyn Suckling, 70 km o Port Moresby, yn y dwyrain, i Ynys Parama yn y gorllewin.
Math | bae |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Papua Gini Newydd |
Cyfesurynnau | 8.02°S 144.78°E |
Mae nifer o afonydd mwyaf yr ynys yn llifo i'r gwlff, yn cynnwys afon Fly, afon Turama, afon Kikori ac afon Purari.