Afon Foyle

afon yn Iwerddon

Afon yn nhalaith Ulster yng ngogledd-orllewin ynys Iwerddon yw Afon Foyle (Gwyddeleg: An Feabhal).[1] Mae'n llifo o gydlifiad afonydd Finn a Mourne yn nhrefi Lifford yn Swydd Donegal, Gweriniaeth Iwerddon, a Strabane yn Swydd Tyrone, Gogledd Iwerddon. O'r fan hon mae'n llifo i ddinas Derry, lle mae'n gollwng i Lough Foyle ac yna i Gefnfor yr Iwerydd. Mae ganddi hyd o 129 km (80 milltir). Mae'r afon yn gwahanu rhan o Swydd Donegal oddi wrth rannau o Swydd Derry a Swydd Tyrone. Yn draddodiadol, enw yr ardal yn Swydd Donegal sy'n ffinio â glan orllewinol Afon Foyle yw "y Laggan".

Afon Foyle
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Cyfesurynnau54.82933°N 7.4805°W, 55.06019°N 7.23878°W Edit this on Wikidata
TarddiadAfon Mourne, Afon Finn Edit this on Wikidata
AberLough Foyle Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Mourne, Afon Finn, Afon Camowen Edit this on Wikidata
Dalgylch2,900 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd129 ±1 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Cyfeiriadau golygu

  1. "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.