Strabane
tref yn Swydd Tyrone
Tref yn Swydd Tyrone, Gogledd Iwerddon, yw Strabane (Gwyddeleg: An Srath Bán).[1] Saif tua hanner ffordd o Derry i'r gogledd ac Omagh i'r de, ar lan ddwyreiniol Afon Foyle, sy'n ffurfio'r ffin â Gweriniaeth Iwerddon. Yr ochr arall i'r afon, saif tref lai Lifford, sef tref sirol Donegal. Mae Afon Mourne yn llifo trwy'r dref cyn iddi ymuno af Afon Foyle.
Math | tref, tref ar y ffin |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Tyrone |
Gwlad | Gogledd Iwerddon |
Arwynebedd | 5.875 km² |
Cyfesurynnau | 54.83°N 7.47°W |
Cod OS | NV488620 |
Cod post | BT82 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Strabane District Council |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y dref boblogaeth o 13,147.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
- ↑ City Population; adalwyd 10 Ionawr 2022