Afon yng Nghatalwnia yw afon Llobregat. Hi yw ail afon Catalwnia o ran hyd, 170 km o hyd.

Afon Llobregat
Mathcwrs dŵr, afon, y brif ffrwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCatalwnia, Talaith Barcelona, Catalunya Central, Àmbit metropolità de Barcelona Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Cyfesurynnau42.282412°N 2.012826°E, 41.302248°N 2.131948°E Edit this on Wikidata
Tarddiadfonts del Llobregat Edit this on Wikidata
AberY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
LlednentyddEl Bastareny, riu de Saldes, Riera de Merlès, Riera Gavarresa, Riera de Merola, Riu Calders, riera de Clarà, Cardener, riera de Gaià, Anoia, Torrent Bo (Vallès Occidental), Riera de Rubí, Riera de Vallvidrera Edit this on Wikidata
Dalgylch4,948.3 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd175 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad20.77 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map
Afon Llobregat

Tardda'r afon yn Castellar de n'Hug, 1,259 medr uwch lefel y môr yn y Serra del Cadí, ac mae'n cyrraedd y Môr Canoldir ger El Prat de Llobregat, gerllaw Barcelona. Mae llawer o waith peirianneg sifil wedi ei wneud ar ran isaf yr afon, gyda dŵr yn cael ei bwmpio yn ôl i fyny'r afon i sicrhau cyflenwad digonol o ddŵr. Yn Martorell, mae hen ffordd Rufeinig y Via Augusta yn croesi'r afon ar y Puente del Diablo ("Pont y Diafol").