Barcelona
Dinas Barcelona (dyweder "Barselona") yw prifddinas cymuned ymreolaethol Catalwnia a thalaith Barcelona yng ngogledd-ddwyrain Sbaen, Saif ar lan Môr y Canoldir, rhyw 120 km o'r ffin a Ffrainc. Mae wedi'i leoli rhwng aberoedd afonydd Llobregat a Besòs, a'i ffin orllewinol yw mynyddoedd Serra de Collserola sydd a'i gopa uchaf yn 512 metr (1,680 tr) o uchter.
Math | bwrdeistref yng Nghatalwnia, dinas |
---|---|
Prifddinas | Barcelona |
Poblogaeth | 1,660,122 |
Pennaeth llywodraeth | Jaume Collboni Cuadrado |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Boston, Cairo, Isfahan, Montpellier, Varna, Dinas Gaza, Dulyn, Monzón, São Paulo, Montréal, Cwlen, St Petersburg, Buenos Aires, Athen, La Habana, Gdańsk, Alger, Perpignan, Rio de Janeiro, Shanghai, Sevilla, Sarajevo, Antwerp, Busan, Tirana, Tel Aviv, Valparaíso, Santo Domingo, Barcellona Pozzo di Gotto, Medellín, Kobe, Montevideo, Nizhniy Novgorod, Istanbul, Perpignan Méditerranée Métropole, Wenzhou, Dubai, Fès, Dinas Ho Chi Minh, Trujillo, Rosario, San Francisco, Monterrey, Kyiv |
Nawddsant | Virgin of Mercy |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Catalaneg, Sbaeneg, Ocsitaneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Barcelona metropolitan area, Red de Juderías de España |
Sir | Barcelonès |
Gwlad | Catalwnia Sbaen |
Arwynebedd | 101.3 km² |
Uwch y môr | 9 metr |
Gerllaw | Y Môr Canoldir, Besòs, Afon Llobregat |
Yn ffinio gyda | Cerdanyola del Vallès, Molins de Rei, Montcada i Reixac, El Prat de Llobregat, Sant Feliu de Llobregat, Santa Coloma de Gramenet, Esplugues de Llobregat, l'Hospitalet de Llobregat, Sant Just Desvern, Sant Cugat del Vallès, Sant Adrià de Besòs |
Cyfesurynnau | 41.3825°N 2.1769°E |
Cod post | 08001–08042 |
Corff gweithredol | Cyngor Dinas Barcelona |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Barcelona |
Pennaeth y Llywodraeth | Jaume Collboni Cuadrado |
Esgobaeth | Roman Catholic Archdiocese of Barcelona |
- Mae'r erthygl yma am ddinas Barcelona. Am y tîm pel-droed, gweler FC Barcelona.
Gyda phoblogaeth o 1,593,075, Barcelona yw'r ail ddinas fwyaf yn Sbaen o ran maint, a'r 11eg o ran maint yn yr Undeb Ewropeaidd (disgwylir fod y ddegfed o ran maint ar ôl Brexit). Mae poblogaeth Ardal Ddinesig Barcelona yn 4.7 miliwn.[1]
Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau o bwysigrwydd rhyngwladol ym Marcelona, yn cynnwys Arddangosfeydd Rhyngwladol yn 1888 a 1929, y Chwaraeon Olympaidd yn 1992 a Fórum 2004 yn 2004. Mae hefyd yn ganolfan ffasiwn, addysg a masnach.[2]
Mae gan Barcelona ddiwylliant cyfoethog ac amrywiol, a chaiff ei hystyried yn un o brif ganolfannau diwylliant ac yn un o gyrchfanau mwyaf poblogaidd Ewrop i ymwelwyr. Yma y ceir rhai o weithiau pensaernïol gorau'r byd, gan gynnwys gwaith y ddau bensaer Antoni Gaudí a Lluís Domènech i Montaner, a ddynodwyd gan UNESCO yn Safleoedd Treftadaeth y Byd.
Hanes
golyguMae gweddillion o ddiwedd y cyfnod Neolithig wedi eu darganod, ond yr hanes cyntaf am Barcelona yw fel sefydliad Iberaidd. Cipiwyd y ddinas gan y cadfridog Carthaginaidd Hamilcar Barca, tad Hannibal. Yn ystod yr Ail Ryfel Pwnig cipiwyd y ddinas gan y Rhufeiniaid a'i henwi yn Julia Augusta Paterna Faventia Barcino yn y flwyddyn 218 C.C.
Yn y 5g daeth yn brifddinas teyrnas y Visigothiaid yn Sbaen, ac yn yr 8g daeth dan reolaeth Islamaidd wedi ei chipio gan Al-Hurr. Ail-gipiwyd y ddinas gan y Cristionogion yn 801, ond parhaodd ymosodiadau Islamaidd, a dinistriwyd llawer o'r ddinas yn 985 gan filwyr Almanzor. Daeth y ddinas yn llewyrchus iawn yn y 13g, ond o'r 15g bu dirywiad. Tua diwedd y 18g dechreuodd diwydiant dyfu yma, a bu deffroad economaidd a diwylliannol yn y 19g.
Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen yr oedd y ddinas ar ochr y Gweriniaethwyr, ond yn y diwedd fe'i cipiwyd gan fyddin Franco yn 1939. Wedi marwolaeth Franco, bu datblygiadau economaidd a diwylliannol pellach yn y ddinas, yn enwedig o ganlyniad i gynnal y Chwaraeon Olympaidd yno yn 1992.
Tarddiad yr enw
golyguCeir yr enghraifft cynharaf o'r enw ar ddarn arian, ac fe'i sgwennwyd mewn ysgrifen Iberaidd hynafol fel Barkeno ( ),[3] ac mewn llawysgrifau Groegaidd fel Βαρκινών, Barkinṓn;[4][5] ac mewn Lladin fel Barcino,[6] Barcilonum[7] a Barcenona.[8][9][10]
Mannau o ddiddordeb
golygu- Eglwys y Sagrada Família, campwaith enwog ac anorffenedig Antoni Gaudí.
- Les Rambles (Las Ramblas yn Sbaeneg), rhwng canol y ddinas a'r porthladd, y brif ardal dwristaidd
- Y Camp Nou, stadiwm y tîm pêl-droed enwog FC Barcelona.
Mae dau Safle Treftadaeth y Byd ym Marcelona:
- Gweithiau Antoni Gaudí (Park Güell a Palau Güell, Casa Milá, Casa Batlló, casa Vicens a'r Sagrada Família).
- Y Palau de la Música Catalana a'r Hospital de Sant Pau.
Ymfudiad
golyguY grwpiau mwyaf o ymfudwyr yn Barcelona[11] | |
Cenedligrwydd | Poblogaeth (2016) |
---|---|
Yr Eidal | 26,676 |
Pacistan | 19,160 |
Gweriniaeth Pobl Tsieina | 18,434 |
Ffrainc | 13,506 |
Moroco | 12,537 |
Bolifia | 9,291 |
Y Philipinau | 8,682 |
Ecwador | 8,109 |
Periw | 7,944 |
Colombia | 7,904 |
Yn 2016 ganwyd 59% o drigolion y ddinas yng Nghatalwnia a 18.5% o weddill y wlad (cyfanswm o 77.5%). Ar ben hyn, daeth 22.5% o boblogaeth y ddinas o'r tu allan i Sbaen - dwbwl yr hyn ydoedd yn 2001 a 4 gwaith cymaint â 1996.[12]
O Ewrop y daw'r rhan fwyaf o ymfudwyr,: yr Eidal (26,676) a Ffrainc (13,506) ac yna gwledydd America Ladin: Bolifia, Ecwador a Colombia. Ym maestrefi gogleddol y ddinas y sefydlodd llawer o'r rhai hyn.[13]
Ceir hefyd cymuned eitha mawr o Bacistan: oddeutu 20,000, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn ddynion.[14]
Pobl o Farcelona
golygu- Sant Olegarius (1060–1137), esgob Barcelona
- Montserrat Caballé (g. 1933), cantores opera
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Boeing, G. (2016). "Honolulu Rail Transit: International Lessons in Linking Form, Design, and Transportation". Planext 2: 28–47. http://geoffboeing.com/publications/honolulu-rail-transit-barcelona/. Adalwyd 29 Ebrill 2016.
- ↑ "The World According to GaWC 2010". Globalization and World Cities Study Group and Network, Prifysgol Loughborough University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Hydref 2013. Cyrchwyd 13 Mai 2014.
- ↑ Emerita: Revista de Lingüística y Filología clasica 11 (1943), t.468
- ↑ Ptolemi, ii. 6. § 8
- ↑ Gudmund Schütte (1917). Ptolemy's Maps of Northern Europe: A Reconstruction of the Prototypes. H. Hagerup. t. 45.
- ↑ Smith, Sir William (1854). Dictionary of Greek and Roman Geography: Abacaenum-Hytanis. Boston, Massachusetts: Little, Brown and Company. t. 378.
- ↑ Rufus Festus Avienus Ora Maritima « et Barcilonum amoena sedes ditium. » v514 Archifwyd 12 Awst 2013 yn y Peiriant Wayback
- ↑ Gustav Parthey (1848). Itinerarium Antonini Avgvsti et Hierosolymitanvm: ex libris manvscriptis. F. Nicolai. t. 188.
- ↑ Petrus Wesseling; Hierocles (The Grammarian) (1735). Vetera Romanorum itineraria, /: sive Antonini Augusti Itinerarium. apud J. Wetstenium & G. Smith. t. 390.
- ↑ Joel Cook (1910). The Mediterranean and Its Borderlands. t. 334.
- ↑ "Barcelona DaTaSHeeT 2012" (PDF). Ajuntament de Barcelona. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-01-22. Cyrchwyd 9 Medi 2014.
- ↑ "Ajuntament de Barcelona - Population, household and homes statistics", adalwyd 22 Mehefin 2017.
- ↑ Sian Preece, The Routledge Handbook of Language and Identity (Routledge, 2016), t.513
- ↑ "Barcelona's Pakistani community", adalwyd 12 Mehefin 2017.