Afon Swale
Afon yn Swydd Efrog, Lloegr ydy'r Afon Swale sy'n llifo o Swaledale yn Dyffrynnoedd Swydd Efrog trwy Froydd Mowbray ac Efrog i mewn i'r Afon Ure, sydd yntai'n newid enw i'r afon Ouse rhai millitoedd i'r de, gan lifo i Fôr y Gogledd trwy foryd yr Humber. Mae'r enw "Swale" yn enw Eingl-Sacsonaidd, ac yn golygu afon "cyflym ei llif".
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gogledd Swydd Efrog |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 54.4306°N 2.2905°W |
Aber | Afon Ure |
Llednentydd | Afon Wiske, Arkle Beck |
Hyd | 117.8 cilometr |
Ystyrir yr Afon Swale fel un o'r afonydd cyflymaf yn Lloegr, ac o dro i dro gorlifa'n sydyn ac mae nifer o nofwyr wedi boddi dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i law trwm yn rhan uchaf Swaledale.