Afon Humber
Moryd yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yw'r Humber, neu afon Humber fel y'i gelwir weithiau. Mae'n foryd hir a ffurfir gan gydlifyad yr afon Ouse a'r afon Trent. Rhed ar gwrs dwyreiniol i Fôr y Gogledd, gan lifo heibio i borthladdoedd Hull, Immingham a Grimsby. Ei hyd yw 40 milltir.
![]() | |
Math |
afon, aber ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Lloegr ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.5833°N 0.000000°E, 53.700392°N 0.691153°W, 53.522758°N 0.139389°E ![]() |
Aber |
Môr y Gogledd ![]() |
Llednentydd |
River Ouse, Afon Trent, Afon Hull, Afon Ancholme, Afon Freshney ![]() |
Dalgylch |
24,750 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd |
121 cilometr ![]() |
![]() | |
Mae'n cael ei chroesi gan Pont Humber, a oedd y bont un rhychwant hiraf yn y byd (1410m / 4626 troedfedd) pan gafodd ei hagor yn 1981.
Yn yr 8g dynodai afon Humber ffin ogleddol teyrnas Offa, brenin Mercia, gyda theyrnas Northumbria yn gorwedd i'r gogledd.