Afon Tagus
(Ailgyfeiriad o Afon Tejo)
Afon Tagus (Lladin Tagus, Sbaeneg Tajo, Portiwgaleg: Tejo) yw'r afon hwyaf ar benrhyn Iberia. Mae'n 1,038 km o hyd, gyda 716 km yn Sbaen, 47 km yn ffurfio'r ffin rhwng Sbaen a Portiwgal a 275 km ym Mhortiwgal. Erbyn heddiw, rheolir llif yr afon gan Argae Alcantara.
Math | afon, gold river, y brif ffrwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Sbaen Portiwgal |
Cyfesurynnau | 40.3197°N 1.6975°W, 38.8525°N 9.0137°W |
Tarddiad | Fuente García |
Aber | Cefnfor yr Iwerydd |
Llednentydd | Almonte, Alberche, Afon Alagón, Jarama, Afon Guadarrama, Rio Ocreza, Afon Ponsul, Tiétar, Trancão River, Afon Zêzere, Afon Algés, Cedena River, Afon Algodor, Afon Alviela, Arroyo Cedrón, Arroyo de Guajaraz, Gévalo River, Arlas Stream, Cifuentes River, Hoz Seca River, Afon Ibor, La Portiña, Alcântara River, Ribeira de Barcarena, Ribeira de Nisa, Alenquer River, Rio Almonda, Alpiarça, Coina River, Rio Grande da Pipa, Rio Jamor, Rio Judeu, Rio Maior, Q10362326, Afon Pusa, Rivera de Fresnedosa, Arroyo del Torcón, Arroyo Guatén, Arroyo de Valdecava, Arroyo de Tamujoso, Arroyo Sangrera, Arroyo del Piojo, Gualija River, Arroyo Alpuébrega, Arroyo de Viloria, Ompolveda, Huso River, Afon Sorraia, Afon Sever, Afon Erges, Río Gallo, Guadiela, Afon Salor, Ablanquejo |
Dalgylch | 80,602 cilometr sgwâr |
Hyd | 1,007 cilometr |
Arllwysiad | 500 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Alcántara Reservoir, Bolarque Reservoir, Castrejón Reservoir, Entrepeñas Reservoir, Valdecañas reservoir, Cedillo Dam, Faltos, Azután Reservoir, Q81420663 |
Tarddle'r Tagus yw'r Fuente de García, ym mynyddoedd yr Albarracín, tra mae ei haber ym Môr Iwerydd gerllaw Lisbon. Y bont hwyaf ar draws yr afon yw Pont Vasco da Gama yn Lisbon, sy'n 17.2 km o hyd. Llifa heibio dinasoedd Aranjuez, Toledo a Talavera de la Reina yn Sbaen ac Abrantes, Santarém, Almada a Lisbon ym Mhortiwgal.
Daw enwau rhanbarthau Alentejo a Ribatejo ym Mhortiwgal o enw'r afon.