Afon yn Nhiriogaeth y Gogledd, Awstralia yw Afon Todd. Mae'n llifo'n anaml, ac yn 272 cilomedr o hyd, yn dechrau 731 medr uwchben y môr, ac yn gorffen 264 medr uwchben y môr. Mae ganddi 7 llednant, gan gynnwys Colyer Creek, Afon Charles, Giles Creek, Afon Ross, Emily Creek, Jinker Creek a Williams Creek[1]. Dalgylch yr afon yw tua 445 cilomedr sgwâr. Mae'r afon yn mynd heibio'r orsaf teligraff, trwy Alice Springs, ac wedyn trwy Fwlch Heavitree ac ymlaen i Anialwch Simpson. Mae'n ymuno Afon Hale, sydd yn mynd i Lyn Eyre yn Ne Awstralia.[2]. Pan fydd glaw trwm i'r gogledd o'r dref, mae'r afon yn llifo trwy Alice Springs rhwng 6 a 8 awr hwyrach, yn mynd ar gyflymder cerdded. Enw brodorol yn afon yw Lhere Mparntwe. Enwyd yr afon gan anheddwyr ar ôl Charles Todd, cyn-bostfeistr cyffredinol Awstralia.[2].

Afon Todd
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Awstralia Awstralia
Cyfesurynnau23.75°S 133.8772°E, 24.8667°S 135.8°E, 23.485°S 133.9906°E, 24.4528°S 135.5153°E Edit this on Wikidata
AberAfon Hale Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Ross, Afon Charles Edit this on Wikidata
Dalgylch445 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd340 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Regata Henley on Todd

golygu

Cynhelir Regata Henley on Todd yn flynyddol ar trydydd dydd Sadwrn ym mis Awst.[3]. Roedd yr un cyntaf ym mis Rhagfyr 1962.[4]

 
Afon Todd yn Alice Springs
 
 

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Bonzle.com
  2. 2.0 2.1 "Tudalen Afon Todd ar wefan Tafarn Todd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-02. Cyrchwyd 2015-01-03.
  3. Gwefan Henley on Todd
  4. "Tudalen hanes ar wefan Henley on Todd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-22. Cyrchwyd 2015-01-03.