Llyn Eyre
Llyn Eyre (Saesneg: Lake Eyre) yw'r man isaf yn Awstralia. Er gwaethaf yr enw, dim ond yn ysbeidiol y ceir digon o ddŵr i'w lenwi, ond pan mae'n llenwi, ef yw llyn mwyaf Awstralia. Saif yn nhalaith De Awstralia, tua 700 km i'r gogledd o Adelaide.
Enwyd y llyn ar ôl Edward John Eyre, yr Ewropead cyntaf i'w weld, a hynny yn 1840.