Afon Vltava
Afon yng Ngweriniaeth Tsiec yw Afon Vltava (hefyd Afon Moldau). Mae'n tarddu yn Fforest Bohemia, am y ffin â'r Almaen, ac yn llifo ar gwrs gogleddol yn bennaf i'w chymer ag Afon Elbe, ger Melnik. Mae'n ffynhonnell bwysig trydan dŵr. Ei hyd yw 434 km (270 milltir).
![]() | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | South Bohemian Region ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 48.9747°N 13.5608°E, 50.3472°N 14.4744°E, 48.8589°N 13.8931°E ![]() |
Tarddiad | Bohemian Forest ![]() |
Aber | Afon Elbe ![]() |
Llednentydd | Olšina, Strážný potok, Polečnice, Křemžský potok, Dehtářský potok, Bezdrevský potok, Otava, Kocába, Lipanský potok, Berounka, Litovicko-Šárecký potok, Zákolanský potok, Bakovský potok, Jezerní potok, Menší Vltavice, Větší Vltavice, Jílecký potok, Malše, Lužnice, Hrejkovický potok, Brzina, Musík, Mastník, Botič, Rokytka, Sázava, Dobrovodský potok, Čertovka, Kalte Moldau, Teplá Vltava, Mlýnská stoka, Kyselá voda, Únětický potok, Bojovský potok, Brusnice, Dalejský potok, Dejvický potok, Břežanský potok, Volarský potok, Q12024709, Meredský potok, Motolský potok, Zahořanský potok, Olšinka, Kunratický potok, Lhotecký potok, Záběhlický potok, Velký potok, Luční potok, Q44066806, Q60178653, Želnavský smyk, Libušský potok, Q23817010, Mariánsko-Lázeňský potok, Vrutice, Podhořský potok ![]() |
Dalgylch | 28,000 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd | 430 cilometr ![]() |
Arllwysiad | 149.9 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
Llynnoedd | Lipno Reservoir, Hněvkovice Reservoir, water reservoir Kořensko, Orlík Reservoir, Kamýk Reservoir, Slapy Reservoir, Štěchovice Reservoir, Vrané Reservoir ![]() |
![]() | |

Tardda'r afon ym mryniau Fforest Bohemia ger tref fechan Vimperk. Mae'n llifo i gyfeiriad y de-ddwyrain i ddechrau a a thrwy lyn mawr artiffisial ger Vyšši Brod. Yn fuan ar ôl hynny mae hi'n troi i gyfeiriad y gogledd gan lifio heibio i sawl tref a dinas, yn cynnwys Česke Budějovice. Ceir sawl argae ar yr afon yn y rhan yma o'i chwrs. Mae'n cyrraedd Praha, prifddinas Gweriniaeth Tsiec, ac yn llifo trwy ganol yr hen ddinas heibio i sawl adeilad hanesyddol (gweler y llun). Tua 50 km ar ôl gadael Praha mae'r Vltava yn ymuno ag Afon Elbe ger Melnik, sy'n llifo wedyn trwy'r Almaen i aberu ym Môr y Gogledd.
Enwir yr ail o'r cerddi symffonig yn y gyfres Má Vlast gan y cyfansoddwr Tsiec gwlagarol Bedřich Smetana (1824-1884) yn Vltava, darn o gerddoriaeth ramantaidd sy'n disgrifio cwrs yr afon ac sy'n fod i gynrychioli ysbryd Bohemia. Mae'n un o ddarnau cerddorol byr mwyaf adnabyddus y 19eg ganrif.