Bedřich Smetana
Cyfansoddwr o Fohemia (rhan o Ymerodraeth Awstria bryd hynny; rhan o Tsiecia bellach) oedd Bedřich Smetana ( ynganiad ) (2 Mawrth 1824 - 12 Mai 1884). Ei waith mwyaf adnabyddus yw'r gerdd symffonig Ma Vlast ("Fy Mamwlad").
Bedřich Smetana | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mawrth 1824 Litomyšl |
Bu farw | 12 Mai 1884 Prag |
Man preswyl | Bedřich Smetana Memorial Museum |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Awstria, Awstria-Hwngari |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, arweinydd, athro, addysgwr, pianydd, athro cerdd, cerddor |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Bartered Bride, Má vlast, String Quartet No. 1 |
Arddull | cerddoriaeth glasurol, opera, cathl symffonig |
Plaid Wleidyddol | Young Czech Party |
Mudiad | cerddoriaeth ramantus |
Tad | František Smetana |
Priod | Bettina Smetanová, Kateřina Otylie Kolářová |
Perthnasau | Josef František Smetana |
llofnod | |
Ganed ef yn Litomyšl, Bohemia, yr adeg honno yn rhan o Ymerodraeth Awstria. Bu'n astudio'r piano a'r feiolin er yn ieuanc, ac aeth i astudio cerddoriaeth ym Mhrag. Yn 1848 cafodd arian gan Franz Liszt i sefydlu ei ysgol gerddoriaeth ei hun.
Yn 1856, symudodd i Gothenburg, Sweden, lle bu'n dysgu a rhoi perfformiadau. Agorodd ysgol gerddoriaeth newydd ym Mhrâg yn 1863, ac yn 1866 cyhoeddodd ei opear gomig Y briodasferch a gyfnewidiwyd. Erbyn 1874 roedd wedi mynd yn fyddar. Parhaodd i gyfansoddi; ysgrifennodd Má vlast wedi iddo fynd yn fyddar. Yn 1875 symudodd i bentref Jabkenice. Bu farw yn 1885 a chladdwyd ef ym mynwent Vyšehrad ym Mhrag.
Ei waith mwyaf adnabyddus efallai yw'r gyfres symffonig ramantaidd Má Vlast ("Fy Mamwlad"), sy'n cynnwys y darn Vltava, sy'n disgrifio cwrs afon Vltava ac sy'n fod i gynrychioli ysbryd Bohemia. Mae'n un o ddarnau cerddorol byr mwyaf adnabyddus y 19eg ganrif.
Cafodd ei waith ddylanwad mawr ar ei gydwladwr Antonín Dvořák.