Afon yn sir Ceredigion yw Afon Ystwyth, sy'n llifo trwy dref Aberystwyth. Mae'n llifo tua'r gorllwein o'i darddiad ger Gronfa Ddŵr Craig Goch yng Nghwm Elan. Mae'n cyrraedd Bae Ceredigion yn Aberystwyth, lle mae'n rhannu aber ag Afon Rheidol.

Afon Ystwyth
Ystwyth.jpg
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.3306°N 3.8964°W Edit this on Wikidata
AberBae Ceredigion Edit this on Wikidata
Dalgylch193 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd33 cilometr Edit this on Wikidata

Ar wasgar mae poblogaeth Dyffryn Ystwyth erbyn hyn, gyda dim ond ychydig o bentrefi megis Ysbyty Ystwyth, Cwmystwyth, Pontrhydygroes, Llanilar a Llanfarian. Ganrifoedd yn ôl, roedd Dyffryn Ystwyth yn gymharol boblog oherwydd ei gyfoeth mwynol. Mae arian, plwm a sinc wedi cael eu cloddio yn y dyffryn er y cyfnod Rhufeinig. Cyrrhaeddodd y gweithgarwch hyn ei uchafbwynt yn y 18g. Lleolwyd y gloddfa fwyaf yng Nghwmystwyth. Dywedir mai 32 oedd yr oedran marw ar gyfartaledd yng Nghwmystwyth, yn bennaf oherwydd gwenwyno plwm.

Mae dŵr yr afon yn dal i gario lefelau uchel o sinc ac arian. Ar wahân i'r olion diwydiannol hyn, mae gan y dyffryn lannau serth coediog sy'n cario'r dŵr clir.

WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.