Afon Yukon
Afon yng Ngogledd America yw afon Yukon. Mae'n 3,185 km o hyd. Ceir ei tharddle gerllaw'r ffin rhwng British Columbia a thiriogaeth Yukon, Canada. Wedi croesi'r ffin i'r Unol Daleithiau, mae'n llifo trwy Alaska i aberu ym Môr Bering.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Yukon, Alaska |
Gwlad | Canada UDA |
Cyfesurynnau | 60.5419°N 134.5192°W, 62.5986°N 164.8°W |
Tarddiad | Juneau Icefield |
Aber | Môr Bering |
Llednentydd | Afon Takhini, Afon White, Afon Charley, Birch Creek, Beaver Creek, Afon Tanana, Yuki River, Afon Nowitna, Afon Innoko, Reindeer River, Afon Khotol, Afon Teslin, Afon Big Salmon, Afon Pelly, Afon Stewart, Afon Klondike, Afon Porcupine, Afon Hadweenzic, Tozitna River, Afon Melozitna, Afon Chandalar, Afon Koyukuk, Afon Nulato, Afon Atchuelinguk, Afon Andreafsky, Afon Anvik, Afon Bonasila, Afon Dall, Afon Fortymile, Afon Kandik, Afon Hodzana, Tatonduk River, Afon Indian, Trout Creek, Little Salmon River, Nordenskiold River, Bull Creek, Afon Ray, Seventymile River, Coal Creek, Eagle Creek, Fifteenmile River, Chandindu River |
Dalgylch | 832,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 3,190 ±1 cilometr |
Arllwysiad | 6,428 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Marsh Lake |
Ystyr y gair 'Yukon' 'yw afon mawr' yn iaith Gwich’in.[1]
Tarddiad yr afon yw Rhewlif Llewelyn, sy'n llifo i Llyn Atlin yng Ngholumbia Beydeinig. Mae gan yr afon ddalgylch o 840,000 o gilomedr sgwâr, sy'n cynnwys nifer o lynnau, megis Llyn Tagish, Llyn Lindeman, Llyn y Gors, Llyn Teslin, Llyn Laberge, Llyn Kusawa a Llyn Kluane.[1]
Ymhlith y trefi ar ei glan mae Whitehorse, Dawson City a Fort Yukon. Dim ond pedair pont sy'n ei chroesi.
Defnyddiwyd stemars olwyn ar yr afon hyd at y 1950au, hyd at gwblhad y Ffordd Klondike.[1]