Agnes Charlotte Gude

darlinwr o Norwy

Roedd Agnes Charlotte Gude (1 Chwefror 186311 Gorffennaf 1929) yn ddarlunydd o Norwy a aned yng Nghymru.[1]

Agnes Charlotte Gude
Ganwyd1 Chwefror 1863 Edit this on Wikidata
Betws-y-coed Edit this on Wikidata
Bu farw11 Gorffennaf 1929 Edit this on Wikidata
Oslo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Norwy Norwy
Galwedigaethdrafftsmon Edit this on Wikidata
TadHans Gude Edit this on Wikidata
MamBetsy Gude Edit this on Wikidata
PriodRichard Scholz Edit this on Wikidata
PlantBetsy Louise Gude Scholz Agnus Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Gude ym Mhont y Pant, ger Dolwyddelan [nb 1] yn blentyn i Hans Gude (1825-1903) a Betsy Charlotte Juliane (née Anker 1830-1912) ei wraig. Roedd Hans Gude yn arlunydd ac yn athro yn yr Academi Gelf yn Düsseldorf. Roedd Gude wedi ennill troedle ym marchnad gelf Prydain yn y 1850au ar ôl i'w weithiau gael eu derbyn i orielau Francis Egerton, Iarll 1af Ellesmere ac Ardalydd Lansdowne. Awgrymodd deliwr celf o Loegr a chyn-fyfyriwr Gude - Mr Stiff - gallai Gude gael llwyddiant yn Lloegr (sic) pe bai yn symud i fyw i'r wlad. Yn hydref 1862 symudodd Hans Gude i Gwm Lledr, Dyffryn Conwy.[2] Tra ei fod yn aros yng Nghymru ganwyd Agnes, ei ferch. Symudodd y teulu i Karlsruhe, Baden-Württemberg,yn hwyr ym 1864.[3] Roedd brodyr a chwiorydd Agnes yn cynnwys y diplomydd Ove Gude (1853-1910), yr arlunydd Nils Gude (1859-1908) a’r arlunydd Sigrid Gude.

Derbyniodd Agnes Gude addysg dda iawn mewn paentio. Mae gweithiau ganddi yn cael eu harddangos yn Oriel Genedlaethol Norwy. Fodd bynnag, dim ond ychydig o'i gweithiau sy'n hysbys. Darluniodd y casgliad barddoniaeth Old and New Children's Songs and Rhymes gan Mathilde Wesendonck, a gyhoeddwyd ym Merlin ym 1890. Dangoswyd deuddeg o'i lluniau dyfrlliw ar gyfer y llyfr hwn yn Arddangosfa Fawr Gelf gyntaf Berlin ym 1893. Roedd y darluniau a ddylanwadwyd gan Art Nouveau yn rhan o “argraffiad ysblennydd” y llyfr plant a daethant yn eiddo i’r cleient, Wesendonck.

Roedd hi'n briod â'r arlunydd Almaenig Richard Scholz (1860–1939) rhwng 1885 a 1903. Bu iddynt dri o blant rhwng 1886 a 1888. Roedd ei merch Betsy Gude Agnus (1887-1979) hefyd yn arlunydd.[4]

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn Oslo yn 66 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Vår Frelsers gravlund yn y ddinas.

Nodiadau

golygu
  1. Mae nifer o ffynonellau yn rhoi ei man geni fel Betws y Coed, y dref fwyaf adnabyddus yn yr ardal

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Agnes Charlotte Gude" (yn nb), Norsk kunstnerleksikon, 2017-02-20, http://nkl.snl.no/Agnes_Charlotte_Gude, adalwyd 2021-03-14
  2. Der aander en tindrende sommerluft varmt over Hardangerfjords vande-- : [Tidemand & Gude], Nasjonalgalleriet 28. september-7. desember 2003. Ann Falahat, Jorån. Heggtveit, Joan Fuglesang, Adolph Tidemand, Hans Fredrik Gude, Nasjonalgalleriet. Oslo: Nasjonalgalleriet. 2003. ISBN 82-90744-87-0. OCLC 54702837.CS1 maint: others (link)
  3. "A Mirror of Nature: Nordic Landscape Painting 1840-1910". web.archive.org. 2010-05-16. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-16. Cyrchwyd 2021-03-14.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  4. "Agnes Charlotte Gude f. 01 Feb 1863 Betws-y-Coad, Conwy, Wales d. 11 Jul 1929 Oslo". sveaas.net. Cyrchwyd 2021-03-14.