Yr agora (yn llythrennol 'lle agored') oedd canolbwynt bywyd cyhoeddus yn y dinas-wladwriaethau Groeg, yn arbennig yn achos y rhai gyda llywodraethau oligarchiaidd neu ddemocrataidd. Llecyn agored o dir gwastad, o ffurf sgwâr fel rheol, yng nghanol y ddinas oedd yr agora ac yno y trafodid pob mater o bwys gwleidyddol neu fasnachol. Yno hefyd gallai gwŷr ymgynnull i hamddena a sgwrsio.

Agora
Mathmarketplace, civic center Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhan o'r agora yn Athen, o'r cyfnod Rhufeinig

O gwmpas yr agora ceid rhai o brif adeiladau'r ddinas (ac eithrio'r acropolis). Roedd y 'stoa', math o bortico neu gysgodfa agored rhag gwres yr haul neu gawodydd o law, yn rhan hanfodol o bensaernïaeth yr agora. Y tu ôl i golonadau'r stoas arferai athronwyr y ddinas ddysgu. Yma hefyd y ceid siopau o bob math, swyddfeydd, banciau a stondinau amrywiol.

Yr agora enwocaf oedd honno yn Athen. Roedd wedi datblygu'n fympwyol, fel bron pob agora arall tan y cyfnod Helenistaidd, ac wedi ei amgylchu â stoas, rhai ohonyn wedi eu cyflwyno i'r ddinas gan reolwyr neu fasnachwyr (e.e. gan Attalos II o ddinas Pergamon yn yr 2g CC). O blith yr adeiladau eraill yr oedd y Bouleuterion yn gartref i Gyngor y Pum Cant. Ar un adeg roedd Cynulliad Athen yn arfer ymgynnull yn yr agora ei hyn cyn iddo symud i adeilad pwrpasol ar y Pnyx. Arferid cynnal sioeau cyhoeddus o bob math yno hefyd yn y dyddiau cynnar cyn i'r Groegiaid ddechrau codi theatrâu, 'gymnasiau' a stadiwmau ('stadia').