Stadiwm
Mae stadiwm (lluosog: stadiymau, stadia neu stadiwms)[1] yn fan neu leoliad ar gyfer (yn bennaf) chwaraeon awyr agored, cyngherddau, neu ddigwyddiadau eraill ac mae'n cynnwys cae neu lwyfan sydd wedi'i amgylchynu naill ai'n rhannol neu'n gyfan gwbl gan strwythur haenog a gynlluniwyd i ganiatáu i wylwyr allu sefyll neu eistedd a gweld y digwyddiad.[2]
Nododd Pausanias mai'r unig ddigwyddiad yng Ngŵyl Olympaidd hynafol Groeg am tua hanner canrif oedd y ras a oedd yn cynnwys un hyd o'r stadion yn Olympia, o ble daeth tarddiad y gair "stadiwm".[3]
Defnyddir y rhan fwyaf o'r stadiymau sy'n dal o leiaf 10,000 o bobl ar gyfer pêl-droed. Mae chwaraeon stadiwm poblogaidd eraill yn cynnwys pêl-droed Americanaidd, pêl fas, criced, rygbi, campau Gwyddelig ac ymladd teirw. Defnyddir llawer o leoliadau chwaraeon mawr hefyd ar gyfer cyngherddau.
Etymoleg
golygu"Stadiwm" yw'r ffurf Ladin ar y gair Groeg "stadion" ( στάδιον ), mesur o hyd sy'n gyfystyr â hyd 600 o draed dynol.[4] Gan fod traed yn amrywio o ran hyd, mae union hyd stadion yn dibynnu ar yr union hyd a fabwysiadwyd ar gyfer 1 troedfedd mewn man ac amser penodol. Er mewn termau modern mae 1 stadion = 600 troedfedd, mewn cyd-destun hanesyddol penodol gall olygu hyd hyd at 15% yn fwy neu'n llai.[3]
Roedd gan y mesur Rhufeinig cyfatebol, y stadiwm, hyd tebyg – tua 185 metr – ond yn hytrach na chael ei ddiffinio mewn troedfeddi diffiniwyd gan ddefnyddio'r passus safonol Rhufeinig i fod yn bellter o 125 passūs (camau dwbl).
Daw'r gair stadiwm o'r seilwaith haenog o amgylch trac Rhufeinig o'r un hyd.
Mae Geiriadur yr Academi yn nodi stadia ar gyfer y lluosog yn Gymraeg, mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn nodi stadiwms, ac mae'r Termiadur Addysg yn nodi stadiymau. Ceir y cofnod cynharaf o'r gair "stadiwm" yn y Gymraeg o 1893 yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru.[5]
Hanes
golyguY stadiwm hynaf y gwyddys amdano yw'r Stadiwm yn Olympia yng Ngwlad Groeg, lle cynhaliwyd y Gemau Olympaidd hynafol o 776 CC. I ddechrau roedd y Gemau yn cynnwys un digwyddiad, sef sbrint o un pen y stadiwm i'r llall.
Mae stadia Groegaidd a Rhufeinig wedi'u darganfod mewn nifer o ddinasoedd hynafol, efallai mai'r enwocaf yw Stadiwm Domitian, yn Rhufain.
Cafodd y Stadiwm Panathenaidd hynafol a gloddiwyd ac a adnewyddwyd ei ddefnyddio i gynnal ymdrechion i adfywio'r Gemau Olympaidd ym 1870 [6] a 1875 cyn cynnal y Gemau Olympaidd modern cyntaf ym 1896, Gemau Rhyngosodol 1906, a rhai digwyddiadau yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2004. Roedd y gwaith o gloddio ac adnewyddu'r stadiwm yn rhan o rodd yn ewyllys etifeddiaeth y cymwynaswr cenedlaethol Groegaidd Evangelos Zappas, a dyma'r stadiwm hynafol cyntaf i gael ei ddefnyddio yn y cyfnod modern.
Moderniaeth
golyguRoedd y stadiymau cyntaf i gael eu hadeiladu yn y cyfnod modern yn gyfleusterau sylfaenol, wedi'u cynllunio i'r un pwrpas o ffitio cymaint o wylwyr â phosibl i mewn. Gyda thwf aruthrol ym mhoblogrwydd chwaraeon trefniadol ar ddiwedd oes Fictoria, yn enwedig pêl-droed yn y Deyrnas Unedig a phêl fas yn yr Unol Daleithiau, adeiladwyd y strwythurau cyntaf o'r fath.[7] Un stadiwm gynnar o'r fath oedd Stadiwm Lansdowne Road, syniad Henry Dunlop, a drefnodd y Pencampwriaethau Athletau Iwerddon Gyfan cyntaf. Wedi'i wahardd rhag cynnal digwyddiadau chwaraeon yng Ngholeg y Drindod, adeiladodd Dunlop y stadiwm ym 1872. “Fe wnes i osod llwybr rhedeg lludw o chwarter milltir, gosod maes presennol Clwb Tenis Lansdowne gyda fy theodolit fy hun, cychwyn clwb saethyddiaeth Lansdowne, clwb criced Lansdowne, ac yn olaf, ond nid lleiaf, Clwb Pêl-droed Rygbi Lansdowne. - lliwiau coch, du a melyn." Defnyddiwyd tua 300 o lwythi cert o bridd o ffos o dan y rheilffordd i godi'r tir, gan alluogi Dunlop i ddefnyddio ei arbenigedd peirianyddol i greu maes yr oedd gweddill Iwerddon yn eiddigeddus ohono.
Mae stadia cynnar eraill o'r cyfnod hwn yn y DU yn cynnwys stadiwm Stamford Bridge (a agorwyd yn 1877 ar gyfer y London Athletic Club ) a stadiwm Anfield (1884 fel maes ar gyfer Everton FC.).
Yn yr Unol Daleithiau, adeiladodd llawer o dimau pêl fas proffesiynol stadia mawr allan o bren yn bennaf, a'r lleoliad cyntaf o'r fath oedd South End Grounds yn Boston, a agorwyd ym 1871 ar gyfer y tîm a elwid bryd hynny yn Boston Beaneaters (yr Atlanta Braves bellach). Aeth llawer o'r parciau hyn ar dân, ac os nad aethant ar dân profant yn annigonol ar gyfer camp a oedd yn fwyfwy poblogaidd. Disodlwyd pob un o barciau pren y 19eg ganrif, rhai ar ôl ychydig flynyddoedd yn unig, ac nid oes yr un wedi goroesi heddiw.
Parc Goodison oedd y stadiwm pêl-droed bwrpasol cyntaf yn y byd. Cafodd y cwmni adeiladu o Walton, Kelly Brothers, gyfarwyddyd i godi dau stand heb eu gorchuddio a allai ddal 4,000 o wylwyr yr un. Gofynnwyd hefyd am drydydd stand dan do ar gyfer 3,000 o wylwyr.[8] Roedd crefftwaith yr adeiladwr wedi gwneud argraff dda ar swyddogion Everton a chytunwyd ar ddau gontract pellach: codwyd hysbysfyrddau allanol ar gost o £150 a gosodwyd 12 o gatiau tro ar gost o £7 yr un.[9] Agorwyd y stadiwm yn swyddogol ar 24 Awst 1892 gan yr Arglwydd Kinnaird a Frederick Wall o Gymdeithas Bêl-droed Lloegr. Ni chwaraewyd pêl-droed; yn hytrach gwyliodd y dorf o 12,000 ddigwyddiad trac a maes a ddilynwyd gan gerddoriaeth ac arddangosfa tân gwyllt.[8] Ar ôl ei gwblhau dyma oedd stadiwm stadiwm pêl-droed pwrpasol cyntaf yn y byd.[10]
Daeth y pensaer Archibald Leitch â'i brofiad o adeiladu adeiladau diwydiannol i ddylanwadu ar ddyluniad stadiymau ar hyd a lled y wlad. Roedd ei waith yn cwmpasu 40 mlynedd cyntaf yr 20fed ganrif. Un o'i gynlluniau mwyaf nodedig oedd Old Trafford ym Manceinion. Cynlluniwyd y maes yn wreiddiol gyda lle i 100,000 o wylwyr ac roedd yn cynnwys seddau yn yr eisteddle deheuol dan orchudd, tra bod y tri stand arall wedi'u gadael fel terasau a heb eu gorchuddio.[11] Hwn oedd y stadiwm cyntaf i gynnwys seddi di-dor ar hyd cyfuchliniau'r stadiwm.[7]
Mabwysiadwyd y lleoliadau cynnar hyn, a gynlluniwyd yn wreiddiol i gynnal gemau pêl-droed, i'w defnyddio gan y Gemau Olympaidd, a chynhaliwyd yr un cyntaf ym 1896 yn Athen, Gwlad Groeg. Mae Stadiwm White City, a adeiladwyd ar gyfer Gemau Olympaidd yr Haf 1908 yn Llundain yn aml yn cael ei nodi fel y stadiwm seddi'n unig modern gyntaf, o leiaf yn y DU. Wedi'i ddylunio gan y peiriannydd JJ Webster a'i gwblhau mewn 10 mis gan George Wimpey,[12] ar safle'r Arddangosfa Ffranco-Brydeinig, agorwyd y stadiwm hwn, gyda lle i ddal 68,000 o bobl un eu seddi, gan y Brenin Edward VII ar 27 Ebrill 1908.[13] Ar ôl ei gwblhau, roedd gan y stadiwm drac rhedeg 24 troedfedd o led a thri lap i'r filltir (536 m); tu allan roedd 35 troedfedd, a thrac beicio 660 llath. Roedd y cae mewnol yn cynnwys pwll nofio a phlymio. Stadiwm Highbury Llundain, a adeiladwyd ym 1913, oedd y stadiwm cyntaf yn y DU i gynnwys trefniant seddi dwy haen pan gafodd ei ailgynllunio mewn arddull Art Deco ym 1936.[7]
Yn ystod y degawdau hyn, roedd datblygiadau stadiwm hefyd yn digwydd yn yr Unol Daleithiau. fe wnaeth y Baker Bowl, parc pêl fas yn Philadelphia a agorodd yn ei ffurf wreiddiol ym 1887 ond a ailadeiladwyd yn llwyr ym 1895, dorri tir newydd mewn adeiladu stadiymau mewn dwy ffordd. Roedd ail ymgnawdoliad y stadiwm yn cynnwys ail ddec (haen) cantilifrog cyntaf y byd mewn lleoliad chwaraeon, a hwn oedd y parc pêl fas cyntaf i ddefnyddio dur a brics ar gyfer y rhan fwyaf o'r gwaith adeiladu. Lleoliad dylanwadol arall oedd Stadiwm Harvard yn Boston, a adeiladwyd ym 1903 gan Brifysgol Harvard ar gyfer ei thîm pêl-droed Americanaidd a'i rhaglen trac a maes. Hwn oedd stadiwm cyntaf y byd i ddefnyddio adeiladwaith concrit a dur. Ym 1909, daeth adeiladu concrit-a-dur i bêl fas pan agorwyd Shibe Park yn Philadelphia ac, ychydig fisoedd yn ddiweddarach, Forbes Field yn Pittsburgh. Forbers Field oedd lleoliad chwaraeon tair haen cyntaf y byd. Y dorf stadiwm fwyaf erioed oedd 199,854 o bobl a wyliodd rownd derfynol Cwpan y Byd 1950 ym Maracanã Rio de Janeiro ar 16 Gorffennaf 1950. [14]
Y cynfyd
golyguAdeiladwyd stadiwm yng Ngroeg a Rhufain yr henfyd at wahanol ddibenion, ac ar y dechrau dim ond y Groegiaid a adeiladodd strwythurau o'r enw "stadiwm"; adeiladodd y Rhufeiniaid strwythurau o'r enw "syrcas". Roedd stadiymau Groegaidd ar gyfer rasys rhedeg, tra bod y syrcas Rufeinig ar gyfer rasys ceffylau. Roedd gan y ddau siapiau tebyg ac ardaloedd tebyg i fowlen o'u cwmpas ar gyfer gwylwyr. Datblygodd y Groegiaid y theatr hefyd, gyda'i threfniadau eistedd yn rhagflaenu rhai stadiymau modern. Copïodd y Rhufeiniaid y theatr, yna ei hehangu i gynnwys torfeydd mwy a lleoliadau mwy cywrain. Datblygodd y Rhufeiniaid hefyd y theatr gron maint dwbl o'r enw amffitheatr, gyda lle i eistedd ar gyfer degau o filoedd i wylio ymladd gladiatoraidd a sioeau bwystfilod. Mae'r stadiwm a'r theatr Groegaidd a'r syrcas Rufeinig a'r amffitheatr i gyd yn rhagflaenu'r stadiwm modern.[15][16]
Enghreifftiau
golyguEnw | Gwlad | Dyddiad cynharaf | Hyd trac | Lled y trac | |
---|---|---|---|---|---|
Stadiwm yn Olympia | Groeg | 776 CC | 212.54 m | 28.5 m | |
Stadiwm yn Delphi | Groeg | 500 CC | 177 m | 25.5 m | |
Stadiwm Domitian | Eidal | 80 OC | 200 m | 250 m (amcangyfrif) | |
Stadiwm Philippopolis | Bwlgaria | 2il ganrif OC (117-138 OC) | 250 m [17] | 32 m | |
Stadiwm yn Aphrodisias | Twrci | 1af ganrif CC | 225 m (tua) | 30 m (tua) |
Mathau
golyguMae stadiymau cromennog yn wahanol i stadiymau confensiynol oherwydd eu toeau amgáu. Nid yw llawer o'r rhain mewn gwirionedd yn gromenni yn yr ystyr bensaernïol pur, mae rhai'n cael eu disgrifio'n well fel fowt, rhai â thoeau â chynhaliaeth gyplau ac eraill â chynlluniau mwy egsotig fel strwythur integredd tyniant. Ond, yng nghyd-destun stadiymau chwaraeon, mae'r term "cromen" wedi dod yn safonol ar gyfer pob stadiwm dan orchudd,[18] yn enwedig oherwydd bod y stadiwm caeedig cyntaf o'r fath, yr Houston Astrodome, wedi'i adeiladu gyda tho siâp cromen. Mae gan rai stadiymau doeau rhannol, ac mae rhai hyd yn oed wedi'u dylunio i fod â maes chwarae symudol fel rhan o'r seilwaith. Mae'r Caesars Superdome yn New Orleans yn strwythur cromen go iawn wedi'i wneud o ffrâm aml-gylchog lamellar ac mae ganddo ddiamedr o 680 troedfedd (210 metr). Dyma'r strwythur cromennog sefydlog mwyaf yn y byd. [19]
Er eu bod yn gaeedig, gelwir stadiymau cromen yn stadia oherwydd eu bod yn ddigon mawr ar gyfer, ac wedi'u cynllunio ar gyfer, yr hyn a ystyrir yn gyffredinol yn chwaraeon awyr agored fel athletau, pêl-droed Americanaidd, pêl-droed, rygbi a phêl fas. Yn gyffredinol, gelwir y rhai sydd wedi'u cynllunio ar gyfer yr hyn sydd fel arfer yn chwaraeon dan do fel pêl-fasged, hoci iâ a phêl-foli yn arenâu. Mae eithriadau yn cynnwys:
- Stadiwm Dan Do Cameron, cartref rhaglenni pêl-fasged dynion a merched y Blue Devils ym Mhrifysgol Duke.
- Red Bull Arena, lleoliad awyr agored sy'n gartref i New York Red Bulls o Major League Soccer a NJ/NY Gotham FC o'r National Women's Soccer League.
- Arena La Défense Paris, stadiwm cromennog sy'n gartref i glwb rygbi'r undeb Racing 92. Mae ganddo floc seddi symudol sy'n caniatáu cyfluniad sy'n briodol ar gyfer chwaraeon cwrt dan do.
- Stadiwm Chicago (a ddymchwelwyd), cyn gartref Chicago Blackhawks yn y National Hockey League a Chicago Bulls yn y National Basketball Association.
Materion dylunio
golyguMae angen arwynebau chwarae gwahanol o wahanol faint a siâp ar wahanol chwaraeon. Mae rhai stadidiymau wedi'u cynllunio'n bennaf ar gyfer un gamp tra bod eraill yn gallu darparu ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau, yn enwedig rhai gyda seddi y gellir eu tynnu'n ôl. Mae stadiwm a adeiladwyd yn benodol ar gyfer pêl-droed yn gyffredin yn Ewrop; mae stadiymau campau Gwyddelig, fel Croke Park, yn gyffredin yn Iwerddon; tra bod stadiymau a adeiladwyd yn benodol ar gyfer pêl fas neu bêl-droed Americanaidd yn gyffredin yn yr Unol Daleithiau. Mae'r dyluniad aml-ddefnydd mwyaf cyffredin yn cyfuno cae pêl-droed â thrac rhedeg, er bod yn rhaid gwneud rhai cyfaddawdau. Y brif anfantais yw bod y standiau o reidrwydd wedi'u gosod cryn bellter o'r maes chwarae, yn enwedig ar ddau ben y maes. Yn achos rhai stadiymau llai, nid oes standiau ar y ddau ben. Pan fydd standiau yr holl ffordd o gwmpas, mae gan y stadiwm y siâp hirgrwn. Pan fydd un pen ar agor, mae gan y stadiwm siâp pedol. Mae'r tri chyfluniad (agored, hirgrwn a phedol) yn gyffredin, yn enwedig yn achos stadiymau pêl-droed Americanaidd colegau. Mae stadiymau hirsgwar yn fwy cyffredin yn Ewrop, yn enwedig ar gyfer pêl-droed lle mae gan lawer o stadia bedwar stand unigryw a gwahanol iawn ar bedair ochr y stadiwm. Mae'r rhain i gyd yn aml o feintiau a chynlluniau gwahanol ac wedi'u codi ar wahanol gyfnodau yn hanes y stadiwm. Mae cymeriad tra gwahanol stadia pêl-droed Ewropeaidd wedi arwain at hobi cynyddol o ymweld â gwahanol feysydd (groundhopping̠) lle mae gwylwyr yn gwneud taith i ymweld â'r stadiwm ei hun yn bennaf yn hytrach nag ar gyfer y digwyddiad a gynhelir yno. Yn y blynyddoedd diwethaf mae'r duedd o adeiladu stadia hirgrwn cwbl newydd yn Ewrop wedi arwain at draddodiadolwyr yn beirniadu'r dyluniadau fel rhai plaen a digymeriad o'u cymharu â'r hen stadia y maent yn eu disodli.
Yng Ngogledd America, lle mai pêl fas a phêl-droed Americanaidd yw'r ddau gamp awyr agored mwyaf poblogaidd i wylwyr, adeiladwyd nifer o stadia aml-ddefnydd pêl-droed/pêl fas, yn enwedig yn ystod y 1960au, a bu rhai ohonynt yn llwyddiannus.
Gan fod y gofynion ar gyfer pêl fas a phêl-droed Americanaidd yn dra wahanol, mae'r duedd wedi bod tuag at adeiladu stadia un pwrpas, gan ddechrau gyda Kansas City yn 1972-1973 a chyflymu yn y 1990au. Mewn sawl achos, mae stadiwm pêl-droed Americanaidd wedi'i adeiladu ger parc pêl fas, er mwyn caniatáu rhannu meysydd parcio ac amwynderau eraill. Gyda chynnydd ym mhoblogrwydd MLS, mae adeiladu stadia pêl-droed-benodol hefyd wedi cynyddu ers diwedd y 1990au er bodlonni anghenion y gamp honno yn well. Mewn sawl achos, adeiladwyd y stadia pêl fas cynnar i ffitio i mewn i ddarn benodol o dir neu floc dinas. Arweiniodd hyn at ddimensiynau anghymesur ar gyfer llawer o feysydd pêl fas. Adeiladwyd Stadiwm Yankee, er enghraifft, ar floc dinas trionglog yn y Bronx, Dinas Efrog Newydd. Arweiniodd hyn at ddimensiwn cae chwith mawr ond dimensiwn cae dde bach.
Cyn i stadia pêl-droed Americanaidd mwy modern gael eu hadeiladu yn yr Unol Daleithiau, roedd llawer o barciau pêl fas, gan gynnwys Parc Fenway, y Polo Grounds, Wrigley Field, Comiskey Park, Stadiwm Tiger, Stadiwm Griffith, Stadiwm Sir Milwaukee, Shibe Park, Cae Forbes, Stadiwm Yankee, a Roedd Sportsman's Park yn cael eu defnyddio gan y National Football League neu'r American Football League. (I raddau, mae hyn yn parhau mewn cynghreiriau pêl-droed is hefyd, gyda'r lleoliad a elwir bellach yn Charles Schwab Field Omaha yn cael ei ddefnyddio fel stadiwm cartref Omaha Nighthawks yn y United Football League.) Ynghyd â stadia defnydd sengl heddiw mae'r duedd ar gyfer parciau pêl fas arddull retro yn agosach at ardaloedd canol y ddinas. Parc Oriole yn Camden Yards oedd y parc pêl fas cyntaf o'r fath ar gyfer Major League Baseball i gael ei adeiladu, gan ddefnyddio arddull o ddechrau'r 20fed ganrif gydag amwynderau'r 21ain ganrif.
Mae stadiwm a bwerir gan yr haul yn Taiwan sy'n cynhyrchu cymaint o ynni ag sydd ei angen i'w weithredu. [20]
Mae dylunwyr stadiwm yn aml yn astudio acwsteg i gynyddu'r sŵn a greir gan leisiau cefnogwyr, gyda'r nod o greu awyrgylch bywiog. [21]
Goleuo
golyguHyd nes dyfodiad llifoleuadau, roedd yn rhaid i'r rhan fwyaf o gemau a chwaraewyd ar feysydd mawr ddibynnu ar olau naturiol.
Dywedir mai Bramall Lane, Sheffield oedd y stadiwm gyntaf â llifoleuadau. Mae llifoleuadau mewn pêl-droed yn dyddio'n ôl mor bell yn ôl â 1878, pan roedd gemau arbrofol â llifoleuadau yn Bramall Lane yn ystod prynhawniau tywyll y gaeaf. Heb unrhyw grid cenedlaethol, roedd goleuadau'n cael eu pweru gan fatris a dynamoes, ac roeddent yn annibynadwy.
Ers datblygu gridiau trydan, mae goleuadau wedi bod yn elfen bwysig wrth ddylunio stadiwm, gan ganiatáu i gemau gael eu chwarae ar ôl machlud haul, ac mewn stadia dan orchudd, neu wedi'i orchuddio'n rhannol, sy'n caniatáu llai o olau naturiol, ond sy'n darparu mwy o gysgod i'r cyhoedd.
Mannau gwylwyr a seddi
golyguMae gan stadiwm "seddi'n unig" sedd ar gyfer pob gwyliwr. Mae stadia eraill wedi'u cynllunio fel bod pawb neu rai o'r gwylwyr yn sefyll i weld y digwyddiad. Nid yw'r term "seddi'n unig" yn gyffredin yn yr Unol Daleithiau, gan mai ychydig iawn o stadia Americanaidd sydd ag adrannau sylweddol ar gyfer sefyll yn unig. Mae cynllun stadiwm gwael wedi cyfrannu'n rhannol at drychinebau, megis trychineb Hillsborough a thrychineb Stadiwm Heysel. O'r herwydd, mae'n ofynnol i bob gwyliwr eistedd yn Uwch Gynghrair Lloegr (gyda rhai eithriadau diweddar gyda dyfodiad "safe standing"), a gemau cymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop UEFA a Chwpan y Byd FIFA .
Cyfeirir at ardaloedd eistedd fel terasau, haenau, neu ddeciau. Wedi'i gosod yn wreiddiol ar fel mannau gyfer sefyll yn unig, mae ganddynt bellach seddau fel arfer. Term arall a ddefnyddir yn yr Unol Daleithiau yw bleachers, a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer mannau eistedd gyda seddi mainc yn hytrach na seddi unigol, ac sy'n aml heb do uwch eu pennau; mae'r enw'n cyfeirio at effaith o golli lliw o ganlyniad y caiff golau haul uniongyrchol a dim cysgod rhag yr elfennau ar y meinciau a'r pobl sy'n sy'n eistedd arnynt.
Mae llawer o stadia yn darparu ystafelloedd neu flychau moethus i gwsmeriaid am brisiau uchel. Mae lle i ddeg i ddeg ar hugain o bobl yn yr ystafelloedd hyn, yn dibynnu ar y lleoliad. Gall switiau moethus mewn digwyddiadau fel y Super Bowl gostio cannoedd o filoedd o ddoleri.
Diogelwch
golyguOherwydd nifer y bobl sy'n ymgynnull mewn stadia ac amlder y digwyddiadau, mae llawer o ddamweiniau nodedig wedi digwydd yn y gorffennol, rhai yn achosi anaf a marwolaeth. Er enghraifft, gwasgfa ddynol trychineb Hillsborough yn Stadiwm Hillsborough yn Sheffield, Lloegr ar 15 Ebrill 1989. Mae'r 97 o farwolaethau a 765 o anafiadau canlyniadol yn golygu mai dyma'r trychineb gwaethaf yn hanes chwaraeon ym Mhrydain.
Mae llawer o ymdrech wedi'i gwneud i osgoi digwyddiadau o'r fath rhag digwydd eto, o ran dylunio a deddfwriaeth. Lle mae risg canfyddedig o drais neu derfysgaeth, rhoddir llawer o sylw er mwyn cadw stadiymau yn fannau lle gall teuluoedd fwynhau digwyddiad cyhoeddus gyda'i gilydd.
Yn Ewrop a De America, yn ystod yr ugeinfed ganrif, roedd yn gyffredin i fandiau treisgar o gefnogwyr ymladd y tu mewn neu'n agos at stadiymau pêl-droed. Yn y Deyrnas Unedig fe'u gelwir yn hwliganiaid .
Mae nodweddion strwythurol sy'n cynyddu diogelwch yn cynnwys mynedfeydd ac allanfeydd ar wahân ar gyfer pob ardal gwylwyr, yn enwedig gwahanu mynedfeydd ar gyfer y cefnogwyr cartref a'r ymwelwyr, waliau ymwahanu, parapetau gwydr, mesurau gwanhau dirgryniad a systemau chwistrellu.
Ymhlith y nodweddion diogelwch sydd wedi'u mabwysiadu mae gwyliadwriaeth arfog, gwiriadau dogfennau adnabod, gwyliadwriaeth fideo, synwyryddion metel a chwiliadau diogelwch i orfodi rheolau sy'n gwahardd gwylwyr rhag cario eitemau peryglus neu a allai fod yn beryglus.
Materion gwleidyddol ac economaidd
golyguMae stadia modern, yn enwedig y rhai mwyaf yn eu plith, yn brosiectau anferthol y gall dim ond y corfforaethau mwyaf, yr unigolion cyfoethocaf, neu'r llywodraeth yw fforddio. Mae gan gefnogwyr chwaraeon ymlyniad emosiynol dwfn at eu timau. Yng Ngogledd America, gyda'i gynghreirau caeedig system“rhyddfraint”, mae llai o dimau na dinasoedd a hoffai dîm. Mae hyn yn creu pŵer bargeinio aruthrol i berchnogion timau, lle gall perchnogion fygwth adleoli timau i ddinasoedd eraill oni bai bod llywodraethau yn rhoi cymhorthdal i adeiladu cyfleusterau newydd.[22] Yn Ewrop ac America Ladin, lle mae yna glybiau pêl-droed cymdeithasau dirifedi bron mewn unrhyw ddinas benodol, a sawl cynghrair ym mhob gwlad, nid oes pŵer monopoli o'r fath yn bodoli, ac mae stadia yn cael eu hadeiladu'n bennaf gydag arian preifat. Y tu allan i chwaraeon proffesiynol, mae llywodraethau hefyd yn cymryd rhan drwy'r gystadleuaeth ddwys am yr hawl i gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr, yn bennaf Gemau Olympaidd yr Haf a Chwpan y Byd FIFA, pan fydd dinasoedd yn aml yn addo adeiladu stadia newydd er mwyn bodloni'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (IOC) neu FIFA .
Enwi corfforaethol
golyguYn ystod y degawdau diwethaf, i helpu ysgafnhau ychydig a faich y gost enfawr o adeiladu a chynnal stadiwm, mae llawer o dimau chwaraeon Americanaidd ac Ewropeaidd wedi gwerthu'r hawliau i enw'r cyfleuster. Mae'r duedd hon, a ddechreuodd yn y 1970au, ond a gyflymodd yn fawr yn y 1990au, wedi arwain at osod enwau noddwyr ar stadia sefydledig a rhai newydd. Mewn rhai achosion, mae'r enw corfforaethol yn disodli (gyda graddau amrywiol o lwyddiant) yr enw y bu'r lleoliad yn ei arddel ers blynyddoedd lawer. Ond nid yw llawer o'r stadia a adeiladwyd yn fwy diweddar, fel y Volkswagen Arena yn Wolfsburg, yr Almaen, erioed wedi cael eu hadnabod gan enw anghorfforaethol. Ers hynny mae'r ffenomen nawdd wedi lledaenu ledled y byd. Erys ychydig o stadia sy'n eiddo i'r awdurdod lleol, sy'n aml yn cael eu hadnabod wrth enw sy'n arwyddocaol i'w hardal (er enghraifft, Fenway Park yn Boston). Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae rhai stadia sy'n eiddo i'r llywodraeth hefyd wedi bod yn destun cytundebau hawliau enwi, gyda rhywfaint neu'r cyfan o'r refeniw yn aml yn mynd i'r tîm(au) sy'n chwarae yno.
Un o ganlyniadau enwi corfforaethol fu cynnydd yn y newidiadau i enwau stadiwm, pan fydd y gorfforaeth o'r un enw yn newid ei henw, neu os yw'r cytundeb enwi'n dod i ben. Roedd stadiwm Phoenix, Chase Field, er enghraifft, yn cael ei adnabod yn flaenorol fel Bank One Ballpark, ond cafodd ei ailenwi i adlewyrchu'r ffaith bod un cwmni wedi cymryd dros y llall. Cafodd Parc Candlestick hanesyddol San Francisco ei ailenwi’n Barc 3Com ers sawl blwyddyn, ond cafodd yr enw ei ollwng pan ddaeth y cytundeb nawdd i ben, ac roedd yn ddwy flynedd arall cyn i’r enw newydd Monster Park (ar ôl cwmni Monster Cable Products) gael ei ddefnyddio. Arweiniodd gwrthwynebiad lleol i enwi corfforaethol y stadiwm benodol honno gyngor dinas San Francisco i adfer enw Parc Candlestick yn barhaol unwaith y daeth cytundeb Monster i ben. Yn fwy diweddar, yn Iwerddon, bu gwrthwynebiad aruthrol i ailenwi Ffordd Lansdowne hanesyddol Dulyn yn Stadiwm Aviva. Ailddatblygwyd Lansdowne fel yr Aviva, gan agor ym mis Mai 2010.
Ar y llaw arall, cadwodd Great Western Forum Los Angeles, un o'r enghreifftiau cynharaf o ailenwi corfforaethol, ei enw am flynyddoedd lawer, hyd yn oed ar ôl i'r banc o'r un enw beidio â bodoli mwyach, gyda'r enw corfforaethol yn cael ei ollwng dim ond ar ôl i'r adeilad newid perchnogaeth yn ddiweddarach. Mae'r arfer hwn gan amlaf yn llai cyffredin mewn gwledydd y tu allan i'r Unol Daleithiau. Eithriad nodedig yw cynghrair Pêl-fas Proffesiynol Nippon yn Japan, lle mae llawer o'r timau eu hunain wedi'u henwi ar ôl eu rhiant-gorfforaethau. Hefyd, mae llawer o stadiymau pêl-droed mwy newydd Ewrop, megis Stadiwm Prifysgol Bolton ac Emirates yn Lloegr a Signal Iduna Park ac Allianz Arena yn yr Almaen wedi'u henwi ar ôl corfforaethau.
Mae'r duedd newydd hon mewn enwi corfforaethol (neu ailenwi) yn wahanol i enwau rhai o'r lleoliadau hŷn, megis Crosley Field, Wrigley Field, a'r stadiwm Busch cyntaf ar ail un, sef bod y parciau wedi'u henwi gan ac ar ôl perchennog y clwb, sydd hefyd yn digwydd bod yn enw'r cwmni sy'n eiddo i berchnogion y clybiau hynny. (Derbyniodd y Stadiwm Busch presennol ei enw trwy gytundeb hawliau enwi modern.)
Yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2006 yn yr Almaen, cafodd rhai stadia eu hailenwi dros dro oherwydd bod FIFA yn gwahardd noddi stadia. Er enghraifft, galwyd yr Allianz Arena ym Munich yn Stadiwm Cwpan y Byd FIFA, Munich yn ystod y gystadleuaeth. Yn yr un modd, bydd yr un stadiwm yn cael ei adnabod fel y "München Arena" yn ystod y cystadlaethau Ewropeaidd. Mae rheolau tebyg yn effeithio ar yr Imtech Arena a'r Veltins-Arena . Mae'r rheol hon yn berthnasol hyd yn oed os yw noddwr y stadiwm yn noddwr swyddogol FIFA - roedd stadiwm Johannesburg a elwid yn fasnachol ar y pryd yn "Parc Coca-Cola", sy'n dwyn enw un o brif noddwyr FIFA, yn cael ei adnabod wrth ei enw hanesyddol Stadiwm Parc Ellis yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2010. Mae enwau corfforaethol hefyd yn cael eu disodli dros dro yn ystod y Gemau Olympaidd.
Materion amgylcheddol
golyguMae nifer o faterion amgylcheddol negyddol yn gysylltiedig ag adeiladu stadiymau modern. Mae angen miloedd o dunelli o ddeunyddiau arnynt i'w hadeiladu, maent yn cynyddu traffig yn fawr yn yr ardal o amgylch y stadiwm, yn ogystal â chynnal a chadw'r stadiwm.[23] Mae'r cynnydd mewn traffig o amgylch stadia modern wedi arwain at greu parthau cysylliad (exposure zones) yn ôl y Health Effect Institute (sefydliad nid-er-elw yn Boston, UDA), gan achosi problemau iechyd posibl i 30-40% o bobl sy'n byw o amgylch y stadiwm.[24] Mae llawer o stadia yn ceisio mynd i'r afael â'r materion hyn drwy osod paneli solar a goleuadau effeithlonrwydd uchel er mwyn leihau eu hôl troed carbon.
Lleoliadau cerddoriaeth
golyguEr bod cyngherddau, megis cerddoriaeth glasurol, wedi'u cyflwyno ynddynt ers degawdau, gan ddechrau yn y 1960au dechreuwyd defnyddio stadia fel lleoliadau byw ar gyfer cerddoriaeth boblogaidd, gan arwain at y term "roc stadiwm", yn enwedig ar gyfer mathau o roc caled a roc blaengar. Mae gwreiddiau roc stadiwm weithiau'n cael ei olrhain i pan chwaraeodd y Beatles ynStadiwm Shea yn Efrog Newydd ym 1965. Daeth ddefnydd stadia mawr yn bwysig ar gyfer teithiau Americanaidd bandiau yn y 1960au hwyr, megis The Rolling Stones, Grand Funk Railroad a Led Zeppelin. Datblygodd y duedd yng nghanol y 1970au wrth i bŵer systemau sain gynyddu gan ganiatáu defnyddio lleoliadau mwy.[25] Daeth mwg, tân gwyllt a sioeau goleuo soffistigedig yn rhan fawr o berfformiadau roc arena.[26] Ymhlith y perfformwyr blaenllaw y cyfnod hwn roedd Journey, REO Speedwagon, Boston, Foreigner, Styx[27], Kiss, Peter Frampton[28] a Queen.[29] Yn y 1980au daeth bandiau metel glam i ddominyddu roc arena, gan ddilyn arweiniad Aerosmith[30] ac hefyd Mötley Crüe, Quiet Riot, WASP a Ratt.[31] Ers y 1980au, mae sêr roc, pop a gwerin, gan gynnwys y Grateful Dead, Madonna, Britney Spears, Beyoncé, a Taylor Swift, wedi mynd ar deithiau yn seiliedig ar berfformio mewn stadiymau mawrion.[32] [33] [34] [35] [36]
Gweler hefyd
golygu- Strwythur pensaernïol
- Rhestr o fathau o strwythurau nad ydynt yn adeiladu
- Amffitheatr
- Jumbotron
- Canolfan celfyddydau perfformio
- Lleoliad chwaraeon
- Cymhleth chwaraeon
- Theatr
- Rhestr o arenâu dan do
- Rhestr o ffigurau presenoldeb chwaraeon
- Rhestrau o stadia
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Stadia is the Latin plural form, but both are used in English. Dictionary.com
- ↑ Nussli Group "Stadium Construction Projects"
- ↑ 3.0 3.1 Young, David C. (2008). A Brief History of the Olympic Games. John Wiley & Sons. t. 20. ISBN 9780470777756.
- ↑ Στάδιον, Henry George Liddell, Robert Scott, A Greek-English Lexicon, on Perseus
- ↑ "Stadiwm". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 12 Ebrill 2023.
- ↑ The Modern Olympic Games, A Struggle for Revival by David C. Young, Chapters 4 & 13
- ↑ 7.0 7.1 7.2 "World Stadiums - Architecture :: Stadium history". www.worldstadiums.com. Cyrchwyd 31 December 2019.
- ↑ 8.0 8.1 Corbett, James (2003). School of Science. Macmillan. ISBN 978-1-4050-3431-9.
- ↑ "The Move to Goodison". Everton Collection. Cyrchwyd 5 April 2010.
- ↑ "History of Goodison Park". ToffeeWeb. Cyrchwyd 3 April 2010.
- ↑ Inglis, Simon (1996) [1985]. Football Grounds of Britain (arg. 3rd). London: CollinsWillow. tt. 234–235. ISBN 0-00-218426-5.
- ↑ White, Valerie (1980). Wimpey: The first hundred years. George Wimpey. t. 5.
- ↑ Zarnowski, C. Frank (Summer 1992). "A Look at Olympic Costs". Citius, Altius, Fortius 1 (1): 16–32. http://www.la84foundation.org/SportsLibrary/JOH/JOHv1n1/JOHv1n1f.pdf. Adalwyd 24 March 2007.
- ↑ Glenday, Craig (2013). GUINNESS WORLD RECORDS BOOK. tt. 142. ISBN 9781908843159.
- ↑ Cameron, Alan (1976). Circus Factions: Blues and Greens at Rome and Byzantium. Oxford University Press.
- ↑ Beare, W. (1950). The Roman Stage: A Short History of Latin Drama in the Time of the Republic. Methuen.
- ↑ [1] Ancient Stadium of Philippopolis
- ↑ "Dome", Merriam-Webster
- ↑ Parry, Haydn (February 2013). "Super Bowl XLVII: New Orleans' pride restored after Katrina". BBC. Cyrchwyd 15 February 2015.
- ↑ Inhabitat (20 May 2009). "Taiwan's solar stadium 100% powered by the sun". The Guardian. Cyrchwyd 2 September 2017.
- ↑ Vennard, Martin (13 April 2013). "How do you give stadiums atmosphere?". BBC News. Cyrchwyd 2 September 2017.
- ↑ Lambert, Craig. "The Dow of Professional Sports" Harvard Magazine
- ↑ "Big Sports Events Have Big Environmental Footprints. Could Social Licenses to Operate Help?". Forbes.
- ↑ J., Grant Jr., Thomas (9 August 2018). "Green Monsters: Examining the Environmental Impact of Sports Stadiums". Villanova Environmental Law Journal 25 (1). http://digitalcommons.law.villanova.edu/elj/vol25/iss1/6.
- ↑ S. Waksman, This Ain't the Summer of Love: Conflict and Crossover in Heavy Metal and Punk (University of California Press, 2009), ISBN 0-520-25310-8, pp. 21–31.
- ↑ R. Shuker, Popular Music: the Key Concepts (London: Routledge, 2nd edn., 2002), 0415284252, p. 158.
- ↑ "Arena rock". AllMusic. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 August 2013. Cyrchwyd 20 January 2011.
- ↑ J. Shepherd, ed., Continuum Encyclopedia of Popular Music of the World, Volume 1 (Continuum, 2003), ISBN 0-8264-6321-5, p. 423.
- ↑ P. Buckley, The Rough Guide to Rock (London: Rough Guides, 3rd edn., 2003), ISBN 1-84353-105-4, p. 835.
- ↑ D. L. Joyner, American Popular Music (McGraw-Hill, 3rd edn., 2008), ISBN 0-07-352657-6, p. 261.
- ↑ [[[:Nodyn:Allmusic]] "Hair metal"], AllMusic. Retrieved 6 July 2010.
- ↑ Menn, D.; Staff, H.L.C. (1992). Secrets from the Masters. Hal Leonard. t. 75. ISBN 978-1-61774-463-1. Cyrchwyd 12 February 2015.
- ↑ Jackson, B. (2006). Grateful Dead Gear: The Band's Instruments, Sound Systems, and Recording Sessions from 1965 to 1995. Music Series. Backbeat Books. t. 258. ISBN 978-0-87930-893-3. Cyrchwyd 12 February 2015.
- ↑ Izundu, Chi (9 September 2012). "Lady Gaga's Born This Way Ball Tour starts in the UK". BBC. Cyrchwyd 10 February 2015.
- ↑ "Taylor Swift". Gillette Stadium. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-13. Cyrchwyd 10 February 2015.
- ↑ Vanhorn, Terri (15 December 1999). "Britney Spears To Tour U.S. Arenas With LFO". MTV. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-01-25. Cyrchwyd 10 February 2015.
- John, Geraint; Rod Sheard; Ben Vickery (2007). Stadia: A Design and Development Guide (arg. 4th). Amsterdam: Elsevier/Architectural Press. ISBN 978-0-7506-6844-6.
- Lisle, Benjamin D. (2017). Modern Coliseum: Stadiums and American Culture. Philadelphia: U of Pennsylvania Press. t. 321.
- Serby, Myron W. (1930). The Stadium; A Treatise on the Design of Stadiums and Their Equipment. New York, Cleveland: American Institute of Steel, inc. OCLC 23706869.