Agoraffobia yw ofn bod mewn sefyllfa wael na allwch ddianc yn hawdd oddi wrtho. Fel arfer mae gan bobl sydd ag agoraffobia lefydd y maent yn teimlo’n ‘ddiogel’ (e.e. eu hystafell wely, neu eu cartref) a llefydd maent yn teimlo’n ‘anniogel’ (e.e. trafnidiaeth gyhoeddus, sinemâu a thorfeydd).

Agoraffobia
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathffobia, clefyd Edit this on Wikidata

Achosion golygu

Yn aml caiff agoraffobia ei achosi gan byliau o banig (neu’r ofn o gael pwl o banig), sy’n arwain at symptomau brawychus o orbryder pan fydd dioddefwyr yn mynd i lefydd ‘anniogel.’ Mae pobl sydd ag agoraffobia yn aml yn osgoi sefyllfaoedd sy’n gwneud iddynt deimlo’n bryderus. Mewn achosion eithafol, gall hyn waethygu i’r fath raddau nad yw dioddefwyr byth yn gadael eu cartrefi.

Symptomau golygu

Efallai eich bod yn dioddef o agoraffobia os ydych yn osgoi’r sefyllfaoedd canlynol oherwydd ofn:

  • Bod mewn torfeydd
  • Mynd tu allan i’ch cartref
  • Bod yn gaeth mewn naill ai llefydd cyfyng fel twneli, neu lefydd eang agored fel caeau mawr

Y ffordd orau i ddarganfod ydych chi’n dioddef ydy i ymweld â’ch meddyg teulu. Fodd bynnag, os ydy gadael y tŷ yn anodd i chi, efallai nad yw hyn yn bosib. Os ydy hyn yn wir, ffoniwch eich meddygfa leol a gofyn am apwyntiad dros y ffôn.

Triniaeth golygu

Cydnabod bod angen help arnoch yw’r cam pwysicaf, wedyn trafod gyda’ch meddyg. Efallai y byddant yn rhoi cyngor i chi ar sut i ddelio â phyliau o banig, cynnig cwnsela hunangymorth ar-lein, rhagnodi cwrs o Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT), a/neu ragnodi meddyginiaeth.[1][2]


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Agoraffobia ar wefan  , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall

  1. "Agoraffobia". meddwl.org. 2017-11-06. Cyrchwyd 2022-05-04.
  2. Bourne, Holly (2013-10-24). "Agoraphobia - TheMix.org.uk". The Mix (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-05-04.