Ahad Ha'am
Newyddiadurwr a thraethodydd Hebraeg, ac un o'r meddylwyr Seionaidd cyn-wladwriaethol mwyaf blaenllaw oedd Asher Zvi Hirsch Ginsberg (18 Awst 1856 - 2 Ionawr 1927), a adnabyddir yn bennaf wrth ei enw Hebraeg a'i ffug enw Ahad Ha'am (Hebraeg: אחד העם, yn llyth. 'un o'r bobl', Genesis 26:10 ). Ganwyd ef yn Skvyra, yn Llywodraethyddiaeth Kiev yn Ymerodraeth Rwsia (Wcráin erbyn heddiw). Priododd ei wraig Rivke yn 17 oed. Bu iddynt dri o blant, Shlomo, Leah, a Rachel.[1] Ym 1886 ymsefydlodd yn Odessa gyda'i rieni, ei wraig a'i blant, ac ymuno â busnes y teulu.[2] Ym 1908, ar ôl taith i Balesteina, symudodd Ginsberg i Lundain i reoli swyddfa cwmni Wissotzky Tea.[3] Ymsefydlodd yn Tel Aviv yn gynnar yn 1922, lle gwasanaethodd fel aelod o Bwyllgor Gwaith Cyngor y Ddinas hyd 1926. Ac yntau'n dioddef o iechyd gwael, bu Ginsberg farw yno yn 1927.[4]
Fe'i gelwir yn sylfaenydd Seioniaeth ddiwylliannol . Gyda'i weledigaeth o "ganolfan ysbrydol" Iddewig yng Ngwlad Israel, roedd ei farn am bwrpas gwladwriaeth Iddewig yn cyferbynnu â barn ffigurau amlwg o fewn y mudiad Seionaidd megis Theodor Herzl, sylfaenydd Seioniaeth wleidyddol . Yn wahanol i Herzl, ymdrechodd Ahad Ha'am dros "wladwriaeth Iddewig ac nid gwladwriaeth o Iddewon yn unig".
Y Gwir o Eretz Israel
golyguYmwelodd Asher Ginsberg â Phalestina (Filayet (talaith) Otomanaidd Beirut a Sanjak (ardal) Jerwsalem) am y tro cyntaf ym 1891,[5] i arsylwi ar hynt yr Aliyah Cyntaf, neu'r don gyntaf o fewnfudo Iddewig i Balesteina (1882-1903). Pan ddychwelodd adref, cyhoeddodd gyfres o bum traethawd yn y papur Hebraeg Ha-Melitz o St. Petersburg o'r enw "Y Gwir o Eretz Israel". Beirniadaeth gynhwysfawr o'r ymdrechion mewnfudo o safbwyntiau logistaidd a moesegol oedd y traethodau, gan gyflwyno adroddiad difrifol am ymdrechion gwladychu Iddewig yno ar gyfer y dyfodol.[5]
Cododd "Y Gwir o Eretz Israel" bryderon am lywodraeth Twrci a'r boblogaeth Arabaidd frodorol, y byddai'r ddau ohonynt yn gadarn yn eu gwrthsafiad yn erbyn trawsnewid Palesteina yn wladwriaeth Iddewig. Roedd y traethodau hefyd yn cwestiynu goroesiad a ffyniant y gwladychwyr Iddewig oedd ym Mhalesteina ar y pryd.[6] Nid oedd y ddibyniaeth ar winwyddaeth wedi'i phrofi ac ar y pryd roedd yn anghynaladwy i ffermwyr Iddewig. Cododd hyn, ynghyd â phrisiau tir chwyddedig, rwystrau ychwanegol i bob nod o Seioniaeth. Credai Ahad Ha'am y byddai mudiad Chofefei Tzion yn fethiant yn y pen draw oherwydd bod y pentrefi newydd yn ddibynnol ar haelioni cymwynaswyr y tu allan i Balesteina, a byddai gwladychwyr tlawd ei oes yn cael trafferth adeiladu unrhyw gartrefwlad Iddewig.[6]
Ystyrir bod y gyfres o ysgrifau ymhlith y gweithiau cyntaf i fynd i'r afael o ddifrif â'r "Broblem Arabaidd" o fewn y mudiad Seionaidd. Rhybuddiodd Ahad Ha'am am elyniaeth yn y dyfodol rhwng yr Arabiaid a'r Iddewon pan fyddai cysylltiadau'n troi'n sur:
"O dramor rydyn ni'n gyfarwydd â chredu bod yr Arabiaid i gyd yn anwariaid yr anialwch, fel asynnod, nad ydyn nhw'n gweld nac yn deall beth sy'n digwydd o'u cwmpas. Ond camgymeriad mawr yw hyn. Mae gan yr Arab, fel holl blant Shem, feddwl craff ac y mae'n gyfrwys iawn. Mae dinasoedd Syria ac Eretz Israel yn llawn o farsiandïwyr Arabaidd sy'n gwybod sut i fanteisio ar y cyhoedd, a delio'n ddichellgar â phawb, yn union fel yn Ewrop. Mae'r Arabiaid, ac yn enwedig y rhai sydd yn y dinasoedd, yn deall ein gweithredoedd a'n dymuniadau yn Eretz Israel, ond y maent yn cadw yn dawel ac yn esgus nad ydynt yn deall, gan nad ydynt yn gweld ein gweithgareddau presennol yn fygythiad i'w dyfodol. Felly maent yn ceisio manteisio arnom ninnau, i dynnu rhyw fudd o'r ymwelwyr newydd cyhyd ag y gallant. Eto y maent yn ein gwatwar yn eu calonnau. Mae'r ffermwyr yn falch o gael trefedigaeth Hebreig yn eu plith gan eu bod yn ennill cyflog da am eu llafur ac yn mynd yn gyfoethocach o flwyddyn i flwyddyn, fel mae profiad yn dangos; ac mae perchnogion eiddo mawr hefyd yn hapus gyda ni, gan ein bod yn talu pris enfawr iddynt - mwy nag y maent wedi breuddwydio'n bosibl - am dir caregog a thywodlyd. Fodd bynnag, os daw'r amser pan fydd bywyd ein pobl yn Eretz Israel yn datblygu i'r pwynt o lechfeddiannu'r boblogaeth frodorol, ni fyddant yn ildio eu lle yn hawdd..." [cyfieithiad] [7]
Adroddodd am y gwladychwyr Seionaidd cynnar:
" Buont yn gaethweision yn ngwlad eu halltudiaeth, ac yn sydyn maent yn eu cael eu hunain mewn rhyddid diderfyn, y math o ryddid gwyllt nad yw ond i'w gael mewn gwlad fel Twrci. Mae'r newid sydyn hwn wedi ennyn ynddynt dueddiad at orthrwm, fel sy'n digwydd bob amser pan ddaw "caethwas yn frenin," ac wele, y maent yn cerdded gyda'r Arabiaid mewn gelyniaeth a chreulondeb, yn llechfeddiannu'n anghyfiawn arnynt, yn eu curo'n gywilyddus heb unrhyw reswm da, a hyd yn oed yn brolio am yr hyn a wnânt, ac nid oes neb i sefyll yn y bwlch i roi stop ar y tuedd peryglus a dirmygus hwn. Siŵr iawn, mae ein pobl yn gywir wrth ddweud nad yw'r Arab ond yn parchu y sawl sy'n dangos cryfder a dewrder, ond nid yw hyn yn berthnasol ond pan fydd yn teimlo bod ei gystadleuydd yn gweithredu'n gyfiawn; nid yw'n wir os oes rheswm i feddwl bod gweithredoedd ei wrthwynebydd yn ormesol ac yn anghyfiawn." [cyfieithiad]
Credai Ahad Ha'am mai'r ateb oedd dod ag Iddewon i Balesteina yn raddol, wrth droi'r wlad yn ganolfan ddiwylliannol. Ar yr un pryd, roedd yn ddyletswydd ar Seioniaeth i ysbrydoli adfywiad ym mywyd cenedlaethol yr Iddewon yn y Diaspora . Dim ond wedyn y byddai'r Iddewon yn ddigon cryf i ysgwyddo cyfrifoldeb codi cenedl-wladwriaeth.[8]
Beirniadwyd y gyfres yn hallt o fewn y mudiad Seionaidd, gyda llawer yn honni bod y traethodau yn rhoi golwg unochrog ar yr ymdrechion cenedlaethol Iddewig, ac eraill yn honni bod y gyfres yn difenwi gwladychwyr Iddewig, yn gyffredinol ac yn benodol ym Mhalesteina. [9] Cadarnhaodd beirniadaeth Asher Ginsberg o Seionyddion Chofefei mudiad roedd yn aelod ohono, ei enw da fel beirniad mewnol a chwmpawd moesol i Seioniaeth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Simon, Leon (2002). Ahad ha-am : Asher Ginzberg: a biography. Varda Books. ISBN 1-59045-411-1. OCLC 1243580984.
- ↑ "YIVO | Ahad Ha-Am". yivoencyclopedia.org.
- ↑ David B. Green (2016-07-08). "1824: A Man Whose Name Makes Israelis Think of 'Tea' Is Born". Haaretz (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-01-26.
- ↑ Encyclopedia of Zionism and Israel, vol. 1, Ahad Ha'am, New York, 1971, pp. 13–14
- ↑ 5.0 5.1 Ginsburg (2009). "Politics and Letters: On the Rhetoric of the Nation in Pinsker and Ahad Ha-Am". Prooftexts 29 (2): 173. doi:10.2979/pft.2009.29.2.173. ISSN 0272-9601. https://archive.org/details/sim_prooftexts_spring-2009_29_2/page/n54.
- ↑ 6.0 6.1 Simon, Leon (2002). Ahad ha-am : Asher Ginzberg: a biography. Varda Books. ISBN 1-59045-411-1. OCLC 1243580984.
- ↑ Ha'am, Ahad (October 2000). "Truth From Eretz Israel". Israel Studies 5 (2): 160–181. doi:10.2979/isr.2000.5.2.160. ISSN 1084-9513.
- ↑ Ginsburg, Shai (2009). "Politics and Letters: On the Rhetoric of the Nation in Pinsker and Ahad Ha-Am". Prooftexts 29 (2): 173. doi:10.2979/pft.2009.29.2.173. ISSN 0272-9601.
- ↑ Ginsburg, Shai (2009). "Politics and Letters: On the Rhetoric of the Nation in Pinsker and Ahad Ha-Am". Prooftexts 29 (2): 173. doi:10.2979/pft.2009.29.2.173. ISSN 0272-9601.