Ahmed Ali
ymchwilydd
Cemegydd yw'r Dr Ahmed Ali sydd wedi ennill gwobrau am ei waith ymchwil. Mae'n arbenigo yng nghemeg planhigion sy'n gynhenid i Gorn Affrica ac wedi ennill gwobrau am ei ddarganfyddiadau yn seiliedig ar y defnydd o'r resinau myrr a thus o Somalia, y naill yn erbyn canser a'r llall fel asiant gwrth-llidiol.[1]
Enghraifft o'r canlynol | bod dynol |
---|
Cafodd Ali ei eni a'i fagu yng Nghasnewydd[2] ac mae o dras Somali. Mae'n gweithio yn Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd ac wedi sefydlu cwmni biotech yng Nghaerdydd sy'n arloesi yn y defnydd o lysiau ym maes meddygaeth.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "Black History Month - Brilliant, Black and Welsh".
- ↑ "Research scientist recognised for contribution to Welsh society". Cardiff University (yn Saesneg). 8 Hydref 2018. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2020.